Portalis i gynnal gweithdai twristiaeth ddiwylliannol cyhoeddus
Nod y digwyddiadau yw sefydlu Rhwydwaith Diwylliannol Trawsffiniol a datblygu twristiaeth mewn cymunedau arfordirol yn Iwerddon a Chymru.
Mae Portalis, sef prosiect trawsddisgyblaethol a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd ac sy’n archwilio’r cysylltiad cyntaf rhwng Iwerddon a Chymru sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig, yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i gyfres o weithdai a gynhelir mewn chwe chymuned arfordirol unigryw yng Nghymru ac Iwerddon.
Bydd y digwyddiadau ymgysylltu lleol trawsffiniol yn ceisio cyflwyno prosiect Portalis ac archwilio’r modd y gellir defnyddio elfennau o’r prosiect i ddatblygu twristiaeth ddiwylliannol yn y cymunedau arfordirol a’u hardaloedd cyfagos.
Cymunedau arfordirol yn Iwerddon a Chymru.
Y cymunedau dan sylw yw Dunmore East, Penrhyn Hook, ac Aber Waterford a’r pentrefi arfordirol cyfagos yn Iwerddon; a Than-y-bwlch, Dyffryn Aeron a Llangrannog yng Ngheredigion, Cymru.
Yn Iwerddon, bydd y gyfres yn dechrau yn Dunmore East am 7.30pm, ar 18 Hydref yn y Fisherman’s Hall. Dilynir hyn gan ddigwyddiad yn Faithlegg am 7.30pm, ar 20 Hydref yng Nghlwb Pêl-droed Park Rangers. Bydd dau ddigwyddiad ychwanegol yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Wexford, i’w cynnal ym mis Hydref. Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu.
Dywedodd Donal Nolan, Swyddog Prosiectau Strategol, Siambr Fasnach Waterford ac Arweinydd Datblygu Rhwydweithiau prosiect Portalis, “Bydd y digwyddiadau yn ceisio cyflawni nifer o amcanion, gan gynnwys ffurfio Rhwydwaith Diwylliannol Trawsffiniol a fydd yn ganolbwynt i brosiectau datblygu rhwng rhanbarthau Iwerddon a Chymru yn y dyfodol.”
Gwarchod treftadaeth arfordirol ddiwylliannol a naturiol
Nodau cyffredinol prosiect Portalis yw gwarchod treftadaeth arfordirol ddiwylliannol a naturiol, hybu dealltwriaeth o addasu i newid yn yr hinsawdd, meithrin rhwydweithiau cymunedol trawsffiniol, a chefnogi cynnydd cynaliadwy yn nifer yr ymwelwyr â chymunedau arfordirol.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy ddefnyddio tystiolaeth bresennol gyda data newydd i ddatblygu naratif trawsffiniol newydd pwerus, sy’n hygyrch, a hynny mewn profiad newydd i ymwelwyr yn y Waterford Museum of Treasures, Iwerddon, ac Amgueddfa Ceredigion, Cymru. Nod y prosiect, gwerth €1.95 miliwn, yw meithrin ymwybyddiaeth a chefnogi ymgysylltiad cynaliadwy â chymunedau a busnesau, gan arwain at sefydlu dau rwydwaith twristiaeth trwy brofiad a diwylliannol newydd sbon yng Nghymru ac Iwerddon.
Amlygwyd pwysigrwydd y gweithdai ar gyfer datblygu twristiaeth leol gan Paul Finegan, Cadeirydd Visit Wexford, a dywedodd, “Bydd ffocws y prosiect o gasglu a defnyddio data newydd am safleoedd archaeolegol/ymwelwyr penodol yn fodd i brofiadau newydd i ymwelwyr gael eu creu, yn gwella’r ddarpariaeth bresennol ymhellach ac yn cynyddu’r amser y byddai ymwelwyr yn aros, ynghyd â nifer yr ymwelwyr, a fyddai’n ychwanegiad i’r ardal i’w groesawu’n fawr.”
Cyfleoedd ar gyfer twf economaidd glas a gwyrdd
Wrth siarad am nodau’r prosiect, dywedodd Joy Rooney, Uwch-swyddog Cyfrifol Portalis a Darlithydd ac Ymchwilydd mewn Dylunio ym Mhrifysgol Dechnolegol y De-ddwyrain, “Wrth i ni archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng gwareiddiadau arfordirol Cymru ac Iwerddon, adlewyrchir hyn gan y bartneriaeth drawsffiniol aml-asiantaethol a arweinir gan ddinasyddion sy’n cael ei ffurfio ’nawr gan ein cymunedau arfordirol cyfoes yn ddau rwydwaith trawsffiniol gwahanol. Rydym yn defnyddio’r gwytnwch hwn ’nawr o ran ein dull o addasu i newid yn yr hinsawdd arfordirol a’n cyfleoedd ar gyfer twf economaidd glas a gwyrdd.”
Cefnogir Portalis gan gyllid gwerth €1.5 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, www.irelandwales.eu. Arweinir y prosiect gan Brifysgol Dechnolegol y De-ddwyrain ac fe’i cefnogir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Ceredigion a Siambr Fasnach Waterford.
Leave A Comment