Archaeoleg Gyhoeddus

Archwilio’r cysylltiad cynharaf rhwng Iwerddon a Chymru

Mae Portalis yn archwilio’r cysylltiad cynharaf rhwng Iwerddon a Chymru, cysylltiad sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig Cynnar (Oes Ganol y Cerrig), sef cyfnod adnabyddus am ei arloesedd a’i amrywiaeth gwych. Gwnawn hyn trwy gydgrynhoi tystiolaeth gyfredol a darparu data newydd. Rydym yn dehongli’r data hwn i ffurfio naratif trawsffiniol cyffrous.

Cydweithrediad Archaeoleg Gyhoeddus

Mae cydweithredu trawsffiniol yn amlwg yn y broses o rannu arbenigedd yn y ddau ranbarth, sef Iwerddon a Chymru, ac, o ystyried natur gynhenid gyffredin cynnwys y prosiect, mae hyn yn angenrheidiol i gyflawni’r gwaith. Mae’r cynllun peilot hwn yn ceisio nodi’r llwyfannau a’r asedau diwylliannol a fydd yn galluogi ymwelwyr i ymgolli mewn clwstwr o brofiadau diwylliannol sy’n gysylltiedig trwy amser a lle wrth iddynt deithio o fewn awdurdodaeth yr Ymgyrch.

Ceir tystiolaeth bellach o gydweithio trawsffiniol yn nodau archaeolegol a rennir Portalis. Mae’r ffocws yn y fan hon ar gael gwell dealltwriaeth o le y daeth ein cyndeidiau cynharaf, a lle mae eu safleoedd ‘nawr, a’r modd yr oedd eu tirweddau anheddu yn wahanol i dirweddau anheddu heddiw. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, adolygir casgliadau amgueddfeydd sy’n bodoli, a chynhelir gwaith maes cyfyngedig ar safleoedd newydd i ddeall newid amgylcheddol a chreu naratif cyffredin ar gyfer y feddiannaeth gynnar.

Mae’r dull cydweithredol hwn yn cynnwys creu adnoddau Dinesydd-Archaeolegydd a phrofiadau arloesol i ymwelwyr yn seiliedig ar naratifau dilys a chyfareddol, gan ddarparu cynnwys newydd a hygyrch iawn. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i adeiladu ar waith ymchwil cyfredol trwy ddatblygu cynigion twristiaeth treftadaeth deongliadol sy’n darparu’r sylfeini ar gyfer gwella’r cynigion twristaidd yn yr ardal drawsffiniol.

Mae gweithgareddau trawsffiniol a chanlyniadau mesuradwy Portalis yn cyd-fynd yn fanwl ag ‘Archaeology 2025’ gan yr Academi Frenhinol a’r Discovery Programme. Mae hon yn strategaeth ddeng mlynedd i arwain datblygiad Archaeoleg Iwerddon yn y dyfodol. Ei nod yw meithrin ymwybyddiaeth o werth archaeoleg a chydnabod bod modelu 3D, archifo digidol ac archaeoleg gymunedol yn newid y tirweddau o ran y modd y cynhelir ymchwiliadau archaeolegol.

Archaeoleg yng Nghymru

Caniataodd cloddiadau ar safle Tal-sarn yn Nyffryn Aeron ym mis Mai 2022 i ni ailymweld â’n safle, a gloddiwyd am y tro cyntaf yn 2019. Mae’r safle’n gorwedd ar ben hen lyn rhewlifol wedi’i fewnlenwi. Pan fu i ddyfroedd tawdd fewnlenwi llawer o’r llyn yn y pen draw, trawsnewidiwyd y dirwedd i fod yn un o ynysoedd tywod a graean isel a amgylchynid gan wlyptir, a hwnnw’n cynnwys gwernydd cyrs, dŵr agored ac afonydd bach.

Yn 2019, bu i waith cloddio ar un o’r ynysoedd hyn ddarganfod nifer bach o arteffactau fflint, yn ogystal â phen bwyell carreg wedi’i lathru’n rhannol. Roeddem yn rhagdybio y gallai’r pen bwyell hwn fod tua 5-6 mil o flynyddoedd oed, ac y câi pen bwyeill o’r fath eu defnyddio gan grwpiau o bobl y cyfnod Neolithig Cynnar, sef pobl a gysylltir fel arfer â chyflwyno ffermio ac adeiladu henebion mawr.

Eleni, aethom yn ôl i archwilio mwy o’r ynys hon, ynghyd ag i archwilio ail ynys i weld a oedd gweithgarwch dynol yn fwy cyffredin yn y gwlyptir hwn. Parhaodd ein hynys gyntaf i gynhyrchu arteffactau, tra daethpwyd o hyd i gasgliad bach ond arwyddocaol o waith fflint ar yr ail ynys. Gyda’i gilydd, roedd 33 o’r darganfyddiadau yn ddigon mawr i’w cofnodi yn y ddaear, tra llwyddwyd hefyd, wrth ogru, i ddod o hyd i 15-20 o ddarnau eraill o fflint wedi’i weithio, gan gynnwys offer ffurfiol. Yn arwyddocaol, wrth ogru ar yr ail ynys hon daethpwyd o hyd i ficrolith bach, sef blaen teflyn yn ôl pob tebyg.

Mae darnau eraill yn cynnwys craidd, llafnau a llefnyn, ynghyd â nifer o naddion a oedd wedi cael eu defnyddio, o bosibl, ar ffurf crafwyr.  Mae hefyd yn amlwg nad dim ond fflint yr oedd pobl yn ei ddefnyddio yn ddeunydd crai. Mae’n bosibl bod cwarts lleol yn cael ei ddefnyddio hefyd, er bod hwn fel arfer yn anos ei weithio i ffurfio offer defnyddiadwy.

Mae’r darganfyddiadau hyn yn awgrymu stori fwy cymhleth gan fod microlithau yn nodweddiadol o’r bobl a ystyrid yn aml yr helwyr-gasglwyr-bysgotwyr olaf (pobl Fesolithig). Mae ein cloddiadau yn Nhal-sarn yn awgrymu grŵp o bobl yr oedd eu ffordd o fyw yn adlewyrchu cysylltiadau yn hytrach na rhaniadau rhwng helwyr-gasglwyr Mesolithig a chymunedau Neolithig.

Mae cysylltiad â’r môr bellach yn glir. O edrych ar y naddion fflint y daethpwyd o hyd iddynt yng nghloddiadau eleni, mae llawer ohonynt yn amlygu cortecs (haen allanol y nodiwl sydd wedi cael ei naddu) sy’n nodweddiadol o gerigos ar y traeth. O ganlyniad, gallwn ddychmygu pobl yn casglu deunydd crai ar y traethau, ac yna’n mynd draw i’r ynysoedd yn Nhal-sarn i lunio eu hoffer. Ond beth yr oedden nhw’n ei wneud yma? Hyd yn hyn, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth o aelwydydd, pyllau nac adeiladweithiau eraill a allai awgrymu eu bod yn treulio unrhyw gyfnod o amser ar y safle. Efallai mai dim ond am ennyd yr oeddent yno, i hela adar gwyllt neu bysgod. Efallai y byddwn yn gwybod mwy ar ôl cloddiad y flwyddyn nesaf.