Mapio’r daith gyntaf rhwng Iwerddon a Chymru

Archwilio’r modd yr addasodd ein cyfanheddwyr cyntaf i’w hamgylchoedd er mwyn goroesi

Mae Portalis yn mapio hanes y daith gyntaf rhwng Iwerddon a Chymru, sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae ein prosiect yn ymchwilio i’r modd yr addasodd y cyfanheddwyr cyntaf i’w hamgylchoedd er mwyn goroesi, ac mae’n ceisio deall a oes yna unrhyw gyffelybiaethau rhwng hyn a’r modd y gallwn ninnau addasu i’r newid yn yr hinsawdd ‘nawr.

Mae Portalis yn brosiect peilot trawsddisgyblaethol dan arweiniad cynllunio, ac a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, www.irelandwales.eu. Arweinir y prosiect gan Brifysgol Dechnolegol y De-ddwyrain (SETU) ac fe’i cefnogir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Ceredigion a Siambr Fasnach Waterford.

Mae rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon Cymru 2014-2020 yn rhaglen forol sy’n cysylltu busnesau a chymunedau ar arfordir gorllewinol Cymru ag arfordir De-ddwyrain Iwerddon. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar chwilio am atebion i heriau a rennir, gan gynnwys proses addasu Môr Iwerddon a chymunedau arfordirol i’r newid yn yr hinsawdd, ac adnoddau a threftadaeth diwylliannol a naturiol.

Mae’r bartneriaeth sy’n cyflenwi’r prosiect yn uno yn y pwrpas a rennir o gyd-ddatblygu gweithgareddau cwbl gynhwysol, sydd wedi’u teilwra i anghenion ein cymunedau ac ymwelwyr, a hynny dan arweiniad y dinesydd.

I gyflawni hyn, byddwn yn gweithio gyda’r chwe chymuned arfordirol ganlynol yn Iwerddon a Chymru, gan greu dau rwydwaith twristiaeth drwy brofiad trawsffiniol newydd.

Portalis

Ein gwaith

Yr hyn a wnawn

Mae Portalis yn cydgrynhoi tystiolaeth gyfredol ac yn darparu data newydd. Rydym yn dehongli’r data hwn i ffurfio naratif trawsffiniol cyffrous sy’n cael ei ddatblygu i fod yn brofiad newydd pwerus i ymwelwyr mewn dwy amgueddfa allweddol.

Gweithio gyda chi

Gan weithio gyda chymunedau lleol, rydym yn defnyddio ystod o dechnegau gwahanol i fapio a hyrwyddo ein profiadau trawsffiniol cysylltiedig a rennir o gyrchfannau, a hynny ochr yn ochr â digwyddiadau cyffrous sy’n cefnogi cymunedau a busnesau yng Nghymru ac Iwerddon!

Ymunwch â ni

Ymunwch â thîm Portalis i ddarganfod a diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol a naturiol gyffredin trwy ein digwyddiadau a’n gweithgareddau. Dewch i helpu i olrhain ôl troed y daith gyntaf a’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru.

Chwe chymuned arfordirol:

Tan-y-bwlch

Aberystwyth, yng Ngheredigion, Cymru

Dwyrain Dunmore

Aber Waterford, Iwerddon

Dyffryn Aeron

yng Ngheredigion, Cymru

Wexford, Iwerddon

Penrhyn Hook

Llangrannog

yng Ngheredigion, Cymru

Aber Waterford

ardal yr harbwr a’r pentrefi arfordirol cyfagos, Iwerddon

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych

Cysylltwch i ddarganfod mwy

Ymunwch â thîm Portalis i ddarganfod a diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol a naturiol gyffredin trwy ein digwyddiadau a’n gweithgareddau. Mae hyn yn ein helpu i gyfrannu at ymchwil newydd a fydd yn archwilio heriau newid hinsawdd arfordirol a, thrwy wneud hynny, yn ein helpu i olrhain ôl troed y daith gyntaf a’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru.