Cynllunio Profiad yr Ymwelydd
Uno yn y pwrpas a rennir o gyd-ddatblygiad dan arweiniad y dinesydd
Un o nodau allweddol y prosiect Portalis yw datblygu profiad trawsffiniol lefel uchel ar y cyd i ymwelwyr yn Amgueddfa Trysorau Waterford, Iwerddon ac Amgueddfa Ceredigion, Cymru. Mae’r profiadau hyn i ymwelwyr yn adrodd hanes y daith ddynol gynharaf rhwng Cymru ac Iwerddon, a hynny gyda chasgliad o arteffactau Mesolithig ar-lein ac all-lein i’w ategu.
Yna, bydd cynllun y profiad cychwynnol i ymwelwyr yn cael ei addasu i fod yn brofiad etifeddol parhaol lefel uchel i ymwelwyr a fydd yn adrodd hanes y daith ddynol gynharaf rhwng Cymru ac Iwerddon, ynghyd â datblygiad ymgyrch Portalis ei hun.
Mae’r cydweithrediad trawsffiniol sy’n bodoli yn cael ei amlygu yn y prosiect trwy gyfrwng y gwaith o ddatblygu Ap ar y cyd i weithredu ar ffurf canolbwynt i’r micro-gyrchfannau lleol ledled y rhanbarthau. Bydd hwn yn rhoi mynediad i’r ymwelydd i straeon unigol, a bydd hefyd yn fodd o gysylltu’r straeon hynny—ac felly’r cyrchfannau hynny—â’i gilydd mewn rhwydwaith.
Bydd ymwelwyr yn gallu cyrchu’r cynnwys i’w helpu i gynllunio ymlaen llaw, cyfoethogi pob cam a chreu cynnwys drwy brofiad myfyriol o’u taith i’r chwe chymuned sy’n rhan o’r prosiect. Yn ei dro, bydd y cynnwys drwy brofiad hwn i ymwelwyr yn helpu i gynnal perthynas barhaus rhwng ymwelwyr a’r ardal arfordirol, yn cefnogi teithiau dychwelyd yn y dyfodol, ac yn darparu gwybodaeth i ymwelwyr newydd posibl.
Mae gan hyn y gallu i wella profiad yr ymwelydd ac, wrth wneud hynny, i ddatblygu twf glas a gwyrdd i wneud y rhanbarth yn lle mwy deniadol i fyw a gweithio ynddo, i adleoli iddo, ac i ymweld ag ef.