Mae Ysgol Genedlaethol Réalt na Mara, ynghyd â Coastwatch Europe, wedi cymryd rhan mewn digwyddiad trosglwyddo gwybodaeth a arweinir gan ddinasyddion ym Mae Booley, Swydd Wexford.

Yn ddiweddar cynhaliodd Portalis weithdy gwyddoniaeth dinasyddion cyntaf y prosiect hyd yma, a hynny ym Mae Booley yn Swydd Wexford, sef safle treftadaeth a bioamrywiaeth arfordirol allweddol sy’n gyrchfan i ymwelwyr. Ymunodd disgyblion o Ysgol Genedlaethol Réalt na Mara, Dunmore East â Coastwatch Europe a myfyrwyr o Goleg y Drindod, Dulyn lle y cawsant ddiwrnod gweithgar yn dysgu am amddiffyn eu treftadaeth arfordirol naturiol a diwylliannol a’i chynefinoedd naturiol a’i bywyd gwyllt.

Trefnwyd cludiant i’r lleoliad gan Comeragh Coaches, lle cawsant eu cyflwyno i arbenigwyr Coastwatch gan Dr Moira Sweeney, sef Goruchwyliwr Ffilm Portalis. Hwylusodd Coastwatch weithdy dan arweiniad yn ymwneud â nodweddion bioamrywiaeth unigryw Aber Waterford ac yn arbennig nodweddion y greires ar ffurf crwybr ym Mae Booley.

Archwilio bywyd morol lleol

Rhannodd y dosbarthiadau yn ddau i gynnal arolwg o’r llanw a oedd ar drai, a dychwelyd wedi hynny gyda’u canfyddiadau. Ar ôl cinio, aeth y ddau grŵp ati i archwilio’r bywyd morol lleol a chregyn y môr a oedd yn yr ardal, a dysgu am ansawdd nentydd ac ecoleg dŵr croyw.

Daeth yr holl grwpiau ynghyd ar gyfer gweithgaredd olaf y dydd, sef ymchwilio i’r brigiadau gorau ar ffurf crwybr a gwneud gwaith archwilio a mesur creigresi yn fanylach ar lanw isel. A dyna ddirwyn gweithgareddau’r dydd i ben wrth i’r ysgol ddychwelyd i Dunmore East, tra bod Coastwatch a chriw ffilmio Portalis, a oedd yn gweithio gyda Nemeton TV i ffilmio’r digwyddiad, yn mynd ymlaen i oleudy Hook Head i ffilmio golygfeydd unigryw o’r safle treftadaeth ysblennydd hwn i’w cynnwys yn ffilm ddogfen ac archif ffilm Portalis.

Mae’r gyfres o weithdai yn rhan allweddol o nod craidd prosiect Portalis o weithio gyda chymunedau lleol i warchod eu treftadaeth arfordirol naturiol a diwylliannol trwy hwyluso proses o drosglwyddo gwybodaeth am gadwraeth treftadaeth a arweinir gan ddinasyddion.

Yn ôl Joy Rooney, Uwch-swyddog Cyfrifol (SRO) ar gyfer prosiect Portalis, ac Ymchwilydd a Darlithydd mewn Dylunio, (SETU), “Mae’n hanfodol bod ein safleoedd treftadaeth arfordirol naturiol a diwylliannol yn cael eu gwarchod. Mae Portalis yn cefnogi hyn trwy ymgysylltu â’n cymunedau lleol sy’n gweithio gyda’i gilydd trwy broses unigryw o drosglwyddo gwybodaeth a arweinir gan ddinasyddion.”

Hoffai Portalis ddiolch i’r Cyng. Donal Barry a’r Cyng. Jody Power am gefnogi’r digwyddiad hwn, ynghyd â’r Cyng. Jim Griffin, y Cyng. Pat Fitzgerald, a’r Cyng. Eddie Mulligan am eu hymdrechion ar y prosiect ehangach.

Chwilio am atebion i heriau a rennir

Nodau cyffredinol prosiect Portalis yw gwarchod treftadaeth arfordirol ddiwylliannol a naturiol, hybu dealltwriaeth o addasu i newid yn yr hinsawdd, meithrin rhwydweithiau cymunedol trawsffiniol, a chefnogi cynnydd cynaliadwy yn nifer yr ymwelwyr â chymunedau arfordirol.

Mae Portalis yn brosiect peilot trawsddisgyblaethol gwerth €1.95 miliwn dan arweiniad cynllunio, a gefnogir gan gyllid gwerth €1.5 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, www.irelandwales.eu. Arweinir y prosiect gan Brifysgol Dechnolegol y De-ddwyrain ac fe’i cefnogir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Ceredigion a Siambr Fasnach Waterford.