Yn y llun: Dr. Suzanne Denieffe, Pennaeth Ysgol Dyniaethau SETU; Claudia Green, Cymrawd Ymchwil Geoarchaeoleg – Portalis; Dr. Joseph Schuldenrein, Cymrawd Ymchwil Geoarchaeoleg – Portalis, yr Athro Veronica Campbell, Llywydd SETU; Dr. Stanton R. Green, Cymrawd Ymchwil Geoarchaeoleg – Portalis.
Lansiwyd SETU gan y Llywydd, yr Athro Veronica Campbell ym mhreswylfa Llysgennad Iwerddon i UDA yn Washington DC, sef Geraldine Byrne Nason. Cynhaliwyd y lansiad rhyngwladol yn unol â phen-blwydd cyntaf SETU fel prifysgol dechnolegol ym mis Mai 2022.
Teithiodd yr Athro Campbell a chydweithwyr yn SETU, gan gynnwys aelodau o dîm Portalis, i Washington DC i fynychu’r derbyniad a gynhaliwyd gan y Llysgennad Byrne Nason er anrhydedd i ymweliad Mr Niall Collins, y Gweinidog Gwladol dros Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth. Roedd yr ymweliad hwn yn cyd-daro â’r 75ain Cynhadledd ac Arddangosfa Flynyddol NAFSA – digwyddiad addysg rhyngwladol mwyaf y byd a fynychwyd gan addysgwyr rhyngwladol o dros 100 o wledydd. Thema digwyddiad eleni yw “Ysbrydoli Dyfodol Cynhwysol”, sef thema sy’n cyd-fynd yn agos ag uchelgais SETU o sicrhau dyfodol ysbrydoledig i’w phobl ledled Iwerddon a’r byd.
Digwyddodd y lansiad hwn ar ôl dadorchuddio diweddar o Gynllun Strategol SETU 2023-2028, sef “Cysylltu ar gyfer Effaith”, sy’n amlinellu blaenoriaethau’r brifysgol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Nod y cynllun yw datblygu addysg gynhwysol ac ymchwil o ansawdd uchel, sy’n ysgogi arloesedd, yn grymuso cymunedau, ac yn sicrhau effaith drawsnewidiol ar gyfer de-ddwyrain Iwerddon a’r byd. Croesawodd y Gweinidog Collins y cyfle i gefnogi Sefydliadau Addysg Uwch Gwyddelig yn NAFSA, gan nodi bod ei bresenoldeb yn dangos y pwysigrwydd y mae’r Llywodraeth yn ei roi ar addysg ryngwladol yn Iwerddon, yn ogystal ag amlygu’r rôl sydd gan Brifysgolion Technolegol yn y maes hwn.
Yn y llun: Yr Athro Veronica Campbell, Llywydd SETU; Niall Collins TD, Gweinidog Gwladol yn yr Adran Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth; Orla Keane, Dirprwy Lysgennad, Llysgenhadaeth Iwerddon, Washington DC.
Dywedodd yr Athro Campbell, “Rhan allweddol o’r genhadaeth hon yw ein cynghreiriau strategol byd-eang, gan gynnwys ein partneriaid yma yn yr Unol Daleithiau, sydd yn werthfawr iawn i ni. Dyma ddechrau cyfnod o dwf sylweddol i SETU, gan gyfuno dros 50 mlynedd o brofiad o uno ein cyn sefydliadau rhanbarthol, ag adeiladu prifysgol dechnolegol fyd-eang gyffrous sy’n cael effaith yn Iwerddon a thu hwnt.”
Ychwanegodd yr Athro Campbell. “Mae Iwerddon wedi dod yn un o’r economïau byd-eang sy’n tyfu gyflymaf trwy addasu’n gyson i anghenion yfory a cheisio diogelu ei hun yn erbyn gofynion byd sy’n newid yn gyflym. Mae sefydlu rhwydwaith newydd o brifysgolion technolegol, megis SETU, yn rhan allweddol o’r addasu hwn. Mae SETU wedi ymrwymo’n ddwfn i gefnogi ymchwil sy’n cael effaith, i fynd i’r afael ag anghenion dinasyddion heddiw ac yn y dyfodol, ac i feithrin partneriaethau ac ymgysylltu â’r byd.”
Mae Portalis yn un prosiect o’r fath sy’n cael effaith drwy ei waith ymchwil sy’n ceisio mynd i’r afael ag anghenion dinasyddion heddiw ac yn y dyfodol. Mae’r prosiect peilot trawsddisgyblaethol yn archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod y cyfnod Mesolithig, lle gellir olrhain tystiolaeth o’n ymsefydlwyr arfordirol cynnar o’r cyfnod Mesolithig Cynnar, 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan ddinasyddion, ac yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol i warchod ein treftadaeth naturiol a diwylliannol a’u cynefinoedd naturiol a’u bywyd gwyllt. Gwneir hyn drwy hwyluso trosglwyddiad gwybodaeth a arweinir gan ddinasyddion, ynghylch cadwraeth treftadaeth mewn safleoedd treftadaeth sy’n gyrchfannau ymwelwyr arfordirol allweddol. Hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi myfyrio ar dystiolaeth archaeolegol, daearegol ac amgylcheddol sy’n bodoli eisoes, ac wedi creu data newydd, cyffrous a gyflawnwyd trwy samplu craidd newydd yn sgil drilio, cloddio, a hefyd dadansoddi mewn labordy. Mae hyn oll wedi’i wneud yn hygyrch trwy gyfrwng gwaith dylunio’r prosiect o fewn ei brofiadau ymwelwyr ac adnoddau ar-lein.
Cefnogir prosiect €1.95m Portalis gan €1.5m o gyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r Rhaglen Cydweithredu Iwerddon Cymru,
www.irelandwales.eu. Arweinir y prosiect gan Brifysgol Dechnolegol y De Ddwyrain, (SETU) ac fe’i cefnogir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Ceredigion a Siambr Fasnach Waterford. I gael rhagor o wybodaeth am uchelgeisiau byd-eang SETU a Chynllun Strategol 2023-2028, “Connecting for Impact”, cliciwch yma .
Leave A Comment