10,000 o flynyddoedd wedi’u mapio

Cliciwch trwy’r daith i ddarganfod y cysylltiad cynharaf rhwng Iwerddon a Chymru

Mae Portalis yn mapio hanes y daith gyntaf rhwng Iwerddon a Chymru, sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae ein prosiect yn ymchwilio i’r modd yr addasodd y cyfanheddwyr cyntaf i’w hamgylchoedd er mwyn goroesi, ac mae’n ceisio deall a oes yna unrhyw gyffelybiaethau rhwng hyn a’r modd y gallwn ninnau addasu i’r newid yn yr hinsawdd ‘nawr.