I’m Kayne and I’m a BA Archaeology student at Lampeter in my final year.  I’m returning to the excavation this year both as a volunteer and a student and as an intern.

Last year I worked on trench 9 where we found possible medieval plough marks and 2 flint flakes.  This year I hope to better myself.  I extended trench 10 by 2 x 8m and deturfed it, I then cut and deturfed trench 10, and then moved back into field 1.  This is where we have cut a trench alongside trench 4, and will hopefully pick up a Late Neolithic feature.  The feature being charcoal, we’ve exposed a large burnt area and have extracted 4 flints.  We placed our trench alongside trench 4 to imitate Mortimer Wheeler’s box-grid method to enable monolith sampling to be taken.

Watch this space!

Kayne ydw i ac rwy’n fyfyriwr BA mewn Archaeoleg yn Llanbedr Pont Steffan, yn fy mlwyddyn olaf. Rwy’n dychwelyd i’r cloddiad eleni fel gwirfoddolwr a myfyriwr dan hyfforddiant. 

Y llynedd, bûm yn gweithio ar ffos 9 lle daethom o hyd i farciau, a oedd efallai yn farciau aradr canoloesol, yn ogystal â 2 o naddion fflint. Eleni, dwi’n gobeithio gwella fy hun. Fe wnes i ehangu ffos 10, gan ei gwneud 2 x 8m yn fwy a thynnu’r tywyrch, ac yna fe dorrais ffos 10 a thynnu’r tywyrch, ac yna symud yn ôl i gae 1. Dyma lle rydym wedi torri ffos wrth ochr ffos 4, gan obeithio y byddwn yn canfod nodwedd o’r cyfnod Neolithig Diweddar. Y nodwedd hon yw siarcol a rydym wedi datgelu ardal fawr oedd wedi’i llosgi ac wedi canfod 4 fflint. Fe wnaethon ni osod ein ffos wrth ymyl ffos 4 i efelychu dull grid blwch Mortimer Wheeler, er mwyn defnyddio techneg samplu monolith.