Daeth yr uwchgynhadledd â chynrychiolwyr awdurdodau lleol a chymunedol o Iwerddon a Chymru ynghyd, gan gynnwys ymweliad â Fferm Fêl Afon Mêl a’r Medd-dŷ. Cafwyd taith o amgylch y fferm a’r Medd-dŷ gan Sam Cooper, perchennog y fferm, oedd hefyd yn cynnwys cipolwg da ar strwythur cymdeithasol a threfniadaeth anhygoel y gwenyn.
Cynhaliwyd uwchgynhadledd gyntaf Portalis ar gyfer datblygu rhwydwaith trawsffiniol yng Ngheredigion, Cymru yr wythnos diwethaf, pryd y daeth cynrychiolwyr rhanddeiliaid lleol o gymunedau arfordirol allweddol ynghyd ar gyfer yr hyn a oedd yn garreg filltir bwysig i’r prosiect.
Roedd y cynrychiolwyr yn cynnwys grŵp rhanddeiliaid lleol o Iwerddon a grŵp rhanddeiliaid lleol o Gymru; y ddau grŵp wedi’u creu yn sgil prosiect Portalis.
Mae Portalis yn archwilio’r cysylltiadau rhwng Bae Ceredigion, Cymru a De-ddwyrain Iwerddon yn ystod y cyfnod Mesolithig, neu’n hytrach y cyfnod a arferai gael ei adnabod fel Canol Oes y Cerrig. Mae’n gwneud hyn drwy ddefnyddio tystiolaeth bresennol a darparu data newydd i greu naratif trawsffiniol cyffrous.
Dywedodd Gwenfair Owen, Swyddog Twristiaeth a Marchnata Cyngor Sir Ceredigion ac aelod o Grŵp Rhanddeiliaid Lleol Cymru, a fynychodd yr uwchgynhadledd agoriadol, “mae’r straeon rydyn ni’n eu rhannu wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y tirwedd ac mae Portalis wedi darparu ffordd newydd a difyr o archwilio, deall a chysylltu â natur a phobl, lle mae eiliadau pwysig o ddarganfod yn pontio miloedd o flynyddoedd.”
Dywedodd Billy Duggan, Uwch Swyddog Gweithredol Cyngor Waterford ac aelod o Grŵp Rhanddeiliaid Lleol Iwerddon, a fynychodd yr uwchgynhadledd gyntaf, “roedd yr uwchgynhadledd yn gyfle i adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd rhwng Gorllewin Cymru a Dwyrain Hynafol Iwerddon, wrth rannu ein hanes a diwylliannau ein cymunedau arfordirol. Dangosodd y pwyslais ar arferion cynaliadwy ei bod yn bosibl cael atyniadau unigryw i ymwelwyr sy’n denu pobl, ond sydd ar yr un pryd yn ategu hanes ac amgylchedd lleol.”
Mae’r prosiect hefyd yn ceisio cefnogi cynnydd cynaliadwy yn nifer yr ymwelwyr i’r ardaloedd hyn trwy gyfrwng rhwydwaith twristiaeth trawsffiniol newydd sy’n ymgysylltu ac yn cydweithio ar brosiectau cyffredin gyda’i gilydd.
Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd yn Aberaeron, ac fe’i mynychwyd gan randdeiliaid lleol Gwyddelig oedd wedi teithio teithio draw i Gymru ar fferi. Bu’r grŵp yn rhannu syniadau ac yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu rhwydwaith datblygu twristiaeth trawsffiniol.
Wrth siarad am botensial y grŵp yn y dyfodol, dywedodd Donal Nolan, Arweinydd Datblygiad y Rhwydwaith ar ran Portalis: “roedd ein cyfarfod wyneb yn wyneb yn gynhyrchiol iawn ac fe wnaeth ein galluogi ni i ddyfnhau’r cysylltiad rhwng y cymunedau a’r rhanddeiliaid sy’n gweithio ar brosiect Portalis. Rhoddodd y cyfarfod gyfle i’r cyfranogwyr drafod prosiectau cydweithredu yn y dyfodol a chreu’r seiliau ar gyfer perthynas waith dda.”
Cynrychiolwyr o’r grŵp twristiaeth trawsffiniol yn cael eu tywys o amgylch Fferm Fêl Afon Mêl a’r Medd-dŷ gan Sam Cooper. Mae’r busnes yn randdeiliad lleol ym mhrosiect Portalis.
Yn dilyn y cyfarfod, ymwelodd y grŵp ag Amgueddfa Ceredigion, lle cawsant eu cyfarch gan Guradur yr Amgueddfa, Carrie Canham, a’u tywys drwy brofiad ymwelwyr dros dro y prosiect sy’n cael ei arddangos yn yr Amgueddfa.
Dywedodd Joy Rooney, Uwch Swyddog Cyfrifol Portalis a Darlithydd ac Ymchwilydd mewn Dylunio ym Mhrifysgol Dechnolegol y De-ddwyrain (SETU), “Wrth i ni archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng gwareiddiadau arfordirol Cymru ac Iwerddon, gwelwn fod y cysylltiadau hyn nawr yn cael eu hefelychu gan y bartneriaeth drawsffiniol aml-asiantaeth a arweinir gan ddinasyddion cymunedau arfordirol cyfoes, gan ffurfio grŵp datblygu rhwydwaith trawsffiniol unigryw. Rydym yn tynnu ar y gwytnwch hwn nawr o ran y modd rydym yn addasu i newid yn yr hinsawdd arfordirol a’r cyfleoedd sydd gennym ar gyfer sicrhau twf economaidd glas a gwyrdd.”
Cynhelir cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf y grŵp datblygu rhwydwaith trawsffiniol ar 13 Gorffennaf, gan gymeryd lle ar y cyd â digwyddiad cau prosiect peilot Portalis, a gynhelir ar yr un diwrnod.
Bydd y grŵp trawsffiniol yn ceisio sefydlu prosiectau datblygu posibl y gellir bwrw ymlaen â nhw fel grŵp a hefyd atgyfnerthu sylfeini’r grŵp ymhellach, fel y bydd yn gweithredu fel endid ymhell ar ôl i brosiect Portalis ddod i ben.
Mae prosiect Portalis yn brosiect gwerth €1.95m, ac fe’i cefnogir gan €1.5m o gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, www.irelandwales.eu. Arweinir y prosiect gan Brifysgol Dechnolegol y De Ddwyrain, (SETU) ac fe’i cefnogir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Ceredigion a Siambr Fasnach Waterford.
Leave A Comment