Ar sail ymchwil newydd, dadleuir fod pobl Fesolithig wedi ymgartrefu ar dir uwch yn Creaden Head yn Swydd Waterford, neu ymhellach i’r dwyrain o’r safle mewn dyfroedd sydd o dan y dŵr erbyn hyn oherwydd bod lefel y môr yn codi.

Mae ymchwil prosiect peilot Portalis yn dangos bod pobl Fesolithig wedi ymgartrefu ar dir uwch fel Creaden Head, oherwydd bod lefel y môr yn codi, ac mae tystiolaeth wedi’i darganfod eu bod wedi meddiannu’r tir uchel sydd wedi goroesi, yn ogystal a thir is sydd o dan ddŵr ar hyn o bryd yn dilyn codiad yn lefel y môr. Mae ymchwil hefyd yn dangos fod posibilrwydd fod pobl Fesolithig wedi meddiannu tir oedd ddegau o gilometrau i’r dwyrain o’r draethlin bresennol yn Creaden Head.

Hefyd, canfyddwyd gweithgaredd Mesolithig a Neolithig Diweddar ar safle cloddio yn Llanllyr yng Nghymru. Mae arwyddion posibl yn y cofnod paill sy’n awgrymu effeithiau dynol arwyddocaol ar dirweddau o’r cyfnod Mesolithig ac ymlaen drwy’r cyfnod ôl-Rufeinig.

Uchelgais, Cyflawni a’r Dyfodol

Cyflwynwyd y canfyddiadau cyffrous hyn gan aelodau tîm archeoleg cyhoeddus Portalis, sef Dr Joseph Schuldenrein a’r Athro Martin Bates yn nigwyddiad cloi’r prosiect ‘Uchelgais, Cyflawni a’r Dyfodol’ yng Ngwesty’r Granville, Waterford ar ddydd Iau 13 Gorffennaf.

Am 15 mis, bu ymchwilwyr o Iwerddon a Chymru yn gweithio gyda chwe chymuned arfordirol i archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng y ddwy wlad yn dyddio’n ôl i 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd y dirwedd Fesolithig yn wahanol i’r un heddiw oherwydd bod yr arfordir ddegau o gilometrau ymhellach i’r dwyrain, a lefel y môr chwech i wyth metr yn is. Dros amser, symudodd lefel y môr tua’r tir ac arafodd y cyfraddau codiad yn lefel y môr. Yn ystod yr Oes Efydd a’r Oes Haearn, roedd y draethlin wedi symud i leoliad presennol Fornaught Strand yn Creaden Head. Mae effaith y tonnau yn erydu’r tywod sydd ar y traeth ar hyn o bryd, ac yn datgelu tystiolaeth o gymdeithas a ddechreuodd sefydlu mewn grwpiau, gan adael olion strwythurau a meysydd gweithgaredd y mae tîm prosiect Portalis wedi’u datgelu.

Cyd-ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’n cysylltiadau

Wrth siarad yn y digwyddiad clo, dywedodd Marc Ó Cathasaigh, T.D. y Blaid Werdd a Llefarydd ar Ddiogelu Cymdeithasol, “Mae Prosiect Portalis yn dwyn i gof y cysylltiadau cymdeithasol a hanesyddol dwfn sy’n ein clymu ar draws Môr Iwerddon, gan ymestyn yn ôl i’r cyfnod cynhanes. Mae’n ein hatgoffa o adeg pan nad oedd ein moroedd a’n hafonydd yn rhwystrau, ond yn hytrach yn briffyrdd oedd yn hwyluso masnach a throsglwyddo gwybodaeth, sgiliau a syniadau rhwng ein glannau, sydd yn mynd yn ôl i’r cyfnod Neolithig. Mae’r elfennau o ymgysylltu cymunedol a gwyddoniaeth dinasyddion sydd ym mhrosiect Portalis yn ein galluogi i gymryd rhan gyda’n gilydd i ddyfnhau ein dealltwriaeth a’n gwerthfawrogiad ar y cyd o’r cysylltiadau sydd wedi ein rhwymo ers cyhyd.”

Mae’r prosiect peilot yn ddyledus i’r diweddar Noel McDonagh, a oedd yn archeolegydd dinesig, yr arbenigwyr allweddol y bu McDonagh’n ymgysylltu â nhw, yn arbennig yr Athro Peter Woodman a’r Athro Stanton Green, y gwaith gwirfoddol dilynol gan Grŵp Llywio Creaden/Aber Waterford yn Iwerddon, a’r gefnogaeth wych a gafwyd gan ei gymunedau arfordirol lleol.

Twf yr economi werdd a glas

Gyda’r gyfres newydd o weithdai dinasyddion sydd ar ddod yn Iwerddon yr haf hwn a lansiad profiadau ymwelwyr etifeddiaeth Portalis yn Amgueddfeydd Waterford Treasures ac Amgueddfa Ceredigion ddiwedd mis Gorffennaf, erbyn hyn mae ystod eang o fentrau twristiaeth gynaliadwy, sy’n cefnogi twf economi werdd a glas mewn modd cynaliadwy, yn digwydd yng Nghymru ac Iwerddon.

“Mae ein canfyddiadau yn darparu adnoddau newydd ar gyfer ein chwe chymuned arfordirol a’u hymwelwyr. Mae’r cynllun peilot wedi cyflawni’r camau cyntaf sy’n sail i dwf economi werdd a glas, megis twf newydd a chynaliadwy. Mae adrodd stori ein data newydd arwyddocaol ac unigryw wedi helpu i godi ymwybyddiaeth ac ennyn diddordeb mewn amddiffyn ein treftadaeth arfordirol ddiwylliannol a naturiol yn y cyfnod heriol sydd o’n blaenau,” meddai Joy Rooney, Uwch Swyddog ac Arweinydd Dylunio Portalis, Darlithydd ac Ymchwilydd Dylunio, Prifysgol Dechnolegol De-ddwyrain (SETU).

Archeoleg gyhoeddus, cadwraeth a gwyddoniaeth dinasyddion

Wrth siarad am arwyddocâd y prosiect, ychwanegodd Dr Geraldine Canny, Pennaeth Ymchwil SETU “Hoffwn longyfarch holl ymchwilwyr a chydweithredwyr prosiect Portalis, sydd wedi cynhyrchu gwybodaeth ac allbynnau gwerthfawr yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch archeoleg gyhoeddus, cadwraeth a gwyddoniaeth dinasyddion. Gobeithio y gall y gwaith pwysig hwn barhau.”

 

Samplu craidd rhynglanwol yn Creadan, Waterford, Gorffennaf 2022. Y ffotograff gan Sophie Green