Ymunodd Ben Lake AS ac Elin Jones AS yn ddiweddar ag arbenigwyr archeolegol o’r Brifysgol sydd ar hyn o bryd yn cynnal gwaith cloddio ar safle ger Talsarn, yn Nyffryn Aeron.
Fel rhan o brosiect Portalis dan arweiniad yr Athro Martin Bates, mae’r tîm o ymchwilwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr cymunedol yn cynnal cloddiad archeolegol ar safle Llanllyr wrth iddynt geisio datrys a darganfod mwy o hanesion cudd Ceredigion.
Yn flaenorol mae’r tîm wedi darganfod nifer o arteffactau ar y safle gan gynnwys cyfres o offer carreg oedd yn dyddio’n ôl i gyfnod cyn i ffermwyr gyrraedd Ceredigion; cyfnod y mae archeolegwyr yn ei alw’n Fesolithig.
Gwahoddwyd yr Aelod o’r Senedd, Elin Jones a Ben Lake AS i ymweld â’r safle a chwrdd â’r Athro Martin Bates a’i dîm i glywed mwy am brosiect Portalis a’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Nhalsarn. Dywedodd yr Athro Bates, Academydd Arweiniol PCYDDS ar brosiect Portalis:
“Roedd yn wych gallu arddangos y record cynhanesyddol cynnar yng Ngheredigion i Elin a Ben. Mae ein cloddiadau yn canolbwyntio ar gyfnod yng ngorffennol ein sir nad ydym yn ei ddeall yn iawn. Trwy gysylltu ein cloddiadau â chofnodion o lystyfiant a newid hinsawdd rydym yn gobeithio cael gwell dealltwriaeth o effaith bodau dynol ar ein tirwedd pan gyrhaeddodd y ffermwyr cyntaf.”
Llun: Emma Spreadborough
Yn un sy’n frwd dros hanes ei hun, dywedodd Ben Lake AS:
“Roedd yn bleser cael ymweld â’r prosiect yn Llanllyr, a gweld gorffennol cynhanesyddol Ceredigion yn cael ei ddatgelu. Mae’r tîm eisoes wedi gwneud darganfyddiadau sy’n rhoi mewnwelediadau pwysig am fywyd yn yr ardal yn ôl yn Oes y Cerrig, ac maent i’w canmol am y ffordd y maent yn rhannu’r darganfyddiadau hyn â’r gymuned leol. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am eu gwaith wrth i’r prosiect ddod i ben.”
Dywedodd y Llywydd ac Aelod Seneddol Ceredigion, Elin Jones:
“Roedd gweld y safle cloddio yn Nhalsarn yn dod ag archaeoleg yn fyw iawn. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn y pridd yn Nhalsarn yn dangos y miloedd o flynyddoedd pan mae pobl wedi byw ar dir Ceredigion a’u ffordd o fyw dros y blynyddoedd hynny. Mae gwybod mwy am hynny’n cyfoethogi ein dealltwriaeth o’n hanes a’n defnydd o’r tir – ac mae hynny’n arbennig o bwysig mewn cyfnod o hinsawdd newydd.
Rydym yn ffodus bod gennym yr arbenigedd wrth law ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ymgymryd â’r gwaith o gloddio a dehongli’r darganfyddiadau.”
Llun: Joshua Rees
Nod y prosiect Portalis gwerth €1.95 miliwn, a gefnogir gan €1.5m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy raglen Cydweithredu Iwerddon-Cymru, yw codi ymwybyddiaeth a chefnogi ymgysylltiad cynaliadwy rhwng cymunedau a busnesau, gan arwain at sefydlu rhwydweithiau twristiaeth a diwylliannol yng Nghymru ac Iwerddon.
Ychwanegodd Gwilym Dyfri Jones, Profost y brifysgol ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin:
“Roeddem yn falch iawn o groesawu Elin a Ben i Dalsarn i weld peth o’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yma gan Martin a’r tîm fel rhan o’r prosiect arbennig hwn. Mae Portalis yn brosiect trawsffiniol, trawsddisgyblaethol cyffrous sy’n archwilio’r bobl cynharaf a oedd yn byw yn Iwerddon a Chymru. Mae’r bartneriaeth sy’n cyflenwi’r prosiect yn uno yn y pwrpas a rennir o gyd-ddatblygu gweithgareddau cwbl gynhwysol, sydd wedi’u teilwra i anghenion ein cymunedau ac ymwelwyr, a hynny dan arweiniad y dinesydd. Rydyn ni’n gyffrous iawn i weld sut mae’r prosiect hwn yn datblygu.”
Leave A Comment