Lois Wilcox – Creative Writing – 1st Year
Hi. I’m Lois and as a creative writing student, being on an excavation site is something that is quite outside my normal comfort zone. Yet there are some surprising similarities. For example, instead of causing future back problems bent over a writing desk or reading a book with bad posture, I’m still creating the same future problems to my spine bent over a trench scrutinizing bit of dirt.
Although despite this back breaking work, I find myself enjoying it immensely. Not only is it therapeutic and more effective than a gym membership, I’m actually learning some interesting things about ancient civilisations that basically lived in our own back garden. Most people, when they think of archaeology think of the pyramids or the remote places like Peru, but it turns out that Britain can also give us a good insight into the past beyond what when know or learn in school. It’s strange and weird to think that Llanllyr use to have a lake that stretched for miles over 8,000 years ago, instead of miles of sheep grazing fields.
Overall, I think that this excavation is a good interactive way of learning no matter what your studying or at least a good way of keeping fit and catching a nice tan while doing a module.
—
Lois Wilcox – Ysgrifennu Creadigol – Blwyddyn 1af
Helo. Lois ydw i ac fel myfyriwr ysgrifennu creadigol, mae bod ar safle cloddio yn rhywbeth sydd yn wrioneddol y tu allan i fy nghylch cysur arferol. Ac eto, yn rhyfeddol mae peth tebygrwydd. Er enghraifft, yn lle achosi problemau cefn yn y dyfodol oherwydd fy mod yn plygu dros ddesg ysgrifennu neu ddarllen llyfr ag ystum gwael, rydw i’n dal i greu’r un problemau yn y dyfodol, i fy asgwrn cefn, wrth i mi blygu dros ffos yn craffu ar ychydig o faw.
Er gwaethaf y gwaith hwn sy’n rhoi straen mawr ar y cefn, rwy’n canfod fy mod yn ei fwynhau’n fawr. Nid yn unig y mae’n therapiwtig ac yn fwy effeithiol nag aelodaeth o gampfa, rwyf mewn gwirionedd yn dysgu rhai pethau diddorol am wareiddiadau hynafol a oedd yn byw yn ein gardd gefn ni. Pan fydd y mwyafrif o bobl yn meddwl am archeoleg, byddant yn meddwl am y pyramidau neu leoedd anghysbell fel Periw, ond mae hefyd yn wir y gall Prydain roi mewnwelediad da i ni o’r gorffennol, y tu hwnt i’r hyn yr ydym yn ei wybod eisoes neu’n ei ddysgu yn yr ysgol. Mae’n rhyfedd meddwl fod llyn a oedd yn ymestyn am filltiroedd, yn Llanllyr dros 8,000 o flynyddoedd yn ôl, yn hytrach na milltir ar ôl milltir o gaeau yn cael eu pori gan ddefaid.
Ar y cyfan, rwy’n meddwl bod y cloddiad hwn yn ffordd dda o ddysgu mewn modd rhyngweithiol – beth bynnag yr ydych yn ei astudio, neu mae o leiaf yn ffordd dda o gadw’n heini a chael lliw haul braf wrth gwblhau modiwl.
Leave A Comment