Ymhlith y darganfyddiadau, y mae cadarnhad o goedwig danddwr a bod Swydd Waterford ymysg y lleoedd cyntaf yn Iwerddon i bobl ymsefydlu ynddo 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Daeth cynrychiolwyr o Iwerddon, Cymru ac Unol Daleithiau America ynghyd yn ddiweddar i drafod Cyfanheddwyr Cyntaf Swydd Waterford sy’n rhan o gyfres o ddigwyddiadau rhwydwaith trawsffiniol a gynhelir gan brosiect Portalis.
Roedd y seminar gyhoeddus rad ac am ddim a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Granville yn cynnwys golwg hynod ddiddorol ar archaeoleg a newid yn yr hinsawdd, ynghyd â thrafodaeth am y modd gorau i gymunedau arfordirol yn Iwerddon a Chymru, a’u hymwelwyr, gydweithio i warchod eu treftadaeth naturiol a diwylliannol.
Wrth gyflwyno’r panel o siaradwyr gwadd ar y noson, nododd Donal Nolan, Swyddog Prosiectau Strategol Siambr Fasnach Waterford, y nifer mawr a oedd yn bresennol ynghyd â phresenoldeb gwesteion rhyngwladol y digwyddiad.
Arteffactau carreg cynhanesyddol, esgyrn anifeiliaid a digreiddio amgylcheddol
Mae prosiect Portalis yn archwilio hanes y daith gyntaf rhwng Iwerddon a Chymru, sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig. Cyflwynwyd datblygiadau diweddaraf y prosiect gan y prif siaradwr, yr Athro Stanton Green, Arweinydd Archaeoleg Gyhoeddus Iwerddon Portalis, GRA, a’i gyd-weithwyr yn y prosiect, Dr Joseph Schuldenrein a Claudia Green, sy’n cynnwys arteffactau carreg cynhanesyddol, esgyrn anifeiliaid a digreiddio amgylcheddol o Fornaught Strand, Swydd Waterford.
Ymhlith y darganfyddiadau mawr a wnaed hyd yma eleni y mae cadarnhad o fodolaeth coedwig danddwr metr a hanner islaw’r Strand, a bod Swydd Waterford ymysg y lleoedd cyntaf yn Iwerddon i bobl ymsefydlu ynddo 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Wrth sôn am ddatblygiadau archaeolegol y prosiect, dywedodd yr Athro Stanton Green, “Y cam nesaf fydd cymharu ein gwaith yn Iwerddon â gwaith ein partneriaid yng Nghymru fel y gellir ail-greu tirwedd ddiwylliannol a naturiol Môr Iwerddon a’r hyn sydd o’i gwmpas.”
Naratif gweledol newydd
Rhoddwyd trosolwg diddorol o Portalis i’r rhai a oedd yn bresennol gan Joy Rooney, Uwch-swyddog Cyfrifol Portalis, Ymchwilydd a Darlithydd mewn Dylunio, Prifysgol Dechnolegol y De-ddwyrain (SETU), a’r modd y bydd yn datblygu naratif gweledol newydd atyniadol yn seiliedig ar ddadansoddiad o dystiolaeth bresennol a data newydd a gasglwyd o fewn y prosiect. Nododd mai un o amcanion allweddol Portalis oedd “cynyddu ac ehangu nifer y bobl sy’n ymweld â chymunedau arfordirol mewn modd cynaliadwy, a hynny trwy ddau rwydwaith trawsffiniol unigryw; y cyntaf yn rhwydwaith diwylliannol a’r ail yn rhwydwaith twristiaeth trwy brofiad”.
Trafododd Ivona Carr, Swyddog Dwyrain Hynafol Iwerddon, Fáilte Ireland, arwyddocâd y prosiect i’r ardal yng nghyd-destun rhaglen Dwyrain Hynafol Iwerddon, wrth i’r Dr Aisling O’Neill, Rheolwr Canolfan Ymchwil ac Arloesedd ArcLabs, SETU, a Nicola Sharman, Swyddog Prosiect Portalis, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, drafod ffyrdd o ddatblygu rhwydweithiau Portalis ymhellach.
Wrth gloi’r digwyddiad, diolchodd Donal Nolan i bawb am ddod, a soniodd am y gefnogaeth gref yn Iwerddon ac o dramor wrth ddod â’r prosiect yn fyw.
Sefydlu rhwydweithiau twristiaeth a diwylliannol
Mae prosiect Portalis, sy’n werth €1.95 miliwn, ac a gefnogir gan gyllid gwerth €1.5 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, yn archwilio hanes y daith gyntaf rhwng Iwerddon a Chymru sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth a chefnogi cymunedau a busnesau trwy sefydlu rhwydweithiau twristiaeth a diwylliannol newydd, a dau brofiad newydd i ymwelwyr yn y Waterford Museum of Treasures, Iwerddon, ac Amgueddfa Ceredigion, Cymru.
Leave A Comment