Croesawyd y Comisiynydd Ewropeaidd dros Gydlyniant a Diwygio, Eliza Ferreira, i Ddinas Waterford ddydd Llun, 19 Medi 2022 gan Faer Waterford, sef y Cyng. John O’Leary, i weld enghreifftiau gwych o lygad y ffynnon o’r modd y mae cymorth o Gronfeydd yr UE wedi gwella’r De-ddwyrain mewn cynifer o ffyrdd.
Diwylliant ymchwil cryf yn SETU
Roedd hyn yn cynnwys ymweld â Phrifysgol Dechnolegol y De-ddwyrain (SETU) i gwrdd ag ymchwilwyr lleol i glywed am yr amrywiaeth eang o waith ymchwil sy’n cael ei wneud yn y brifysgol newydd, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, gan gynnwys prosiectau canolfannau SFI, prosiectau Enterprise Ireland ac Interreg.
Cyfarfu’r Comisiynydd Ferreira â Joy Rooney, Uwch-swyddog Cyfrifol (SRO) Portalis ar gyfer prosiect Portalis, ynghyd â chynrychiolwyr o Sefydliad Walton, SEAM, a PMBRC, a phrosiect Interreg arall, sef STREAM. Esboniodd ymchwilwyr effaith eu prosiect mewn perthynas â themâu digidol a gwyrdd a datblygiad rhanbarthol.
Gwnaed argraff ar y Comisiynydd gan y modd y mae SETU Waterford wedi creu ecosystem ymchwil ac arloesi sy’n cysylltu ymchwilwyr a myfyrwyr ag entrepreneuriaid a chwmnïau sefydledig i greu diwylliant ymchwil cryf, gyda chefnogaeth yr Uned Cymorth Ymchwil, ac roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn clywed am uchelgeisiau’r Brifysgol Dechnolegol i ddatblygu hyn ymhellach yn rhyngwladol.
Cyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)
Hebryngwyd y Comisiynydd ar hyd y Triongl Llychlynnaidd tuag at y Farchnad Afalau gan Faer a Cathaoirleach Cynulliad Rhanbarth y De, y Cyng. Oliver Walsh, hefyd, a hynny i weld y modd y mae’r gofod yn cael ei ddefnyddio heddiw ar ôl cael cymorth adfywio gan Raglen Ranbarthol 2014-20 yr ERDF yn y De a’r Dwyrain.
Er 2014, mae Rhaglen Ranbarthol y De a’r Dwyrain, a reolir gan Gynulliad Rhanbarthol y De yn y ddinas, wedi darparu cymorth gwerth €621 miliwn ar ffurf cymorth i ficro-fentrau, gweithgareddau ymchwil a masnacheiddio, mentrau carbon isel, cyllid cyflym mewn ymateb i’r pandemig, a phrosiectau datblygu trefol cynaliadwy, megis y Farchnad Afalau. Llwyddodd Cyngor Dinas a Swydd Waterford i sicrhau €4 miliwn o’r ERDF yn arian cyfatebol i drawsnewid yr ardal ar gyfer yr 21ain ganrif fel ei bod yn fan cyhoeddus modern i drigolion ac ymwelwyr ei mwynhau.
Cyfarfu’r Comisiynydd hefyd â’r myfyrwyr brwdfrydig yn Youthreach ar Stryd O’Connell i wrando ar eu profiadau a’u barn am eu haddysg. Eglurodd y Cyng. Lola O’Sullivan, Dirprwy Faer y Rhanbarth Metropolitan a Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Addysgu a Hyfforddi Waterford a Wexford, sut y mae Youthreach yn gweithio i gymell ac ysbrydoli ei fyfyrwyr trwy amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi, a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Gwaddol buddsoddiad yr UE yn Waterford
Dywedodd y Cyng. Oliver Walsh, Cathaoirleach Cynulliad Rhanbarth y De, “Mae croesawu’r Comisiynydd Ferreira i Waterford i arddangos gwaddol buddsoddiad yr UE yn y ddinas mewn cynifer o ffyrdd, o waith cyhoeddus a hyfforddiant i bobl ifanc, i ymchwil lefel uchel a masnacheiddio ar gampws y Brifysgol Dechnolegol, wedi dangos pa mor dda y bu’r buddsoddiad.”
Dyfodol craff, gwyrdd a digidol
Yn ddiweddar, cyflwynodd y Cynulliad Rhanbarthol gynnig i’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rownd newydd o fuddsoddiad gan yr ERDF trwy Raglen Ranbarthol y De, y Dwyrain a’r Canolbarth 2021-27 gwerth €641 miliwn, sef €265 miliwn o gyllid yr UE a €376 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Iwerddon. Bydd hyn yn cael ei fuddsoddi mewn meithrin rhanbarthau craffach, mwy cystadleuol, gan greu rhanbarthau gwyrddach sy’n fwy effeithlon o ran ynni a Phontio Teg, a datblygu trefol cynaliadwy yn ein rhanbarthau.
Dywedodd y Comisiynydd Ferreira, “Bydd Iwerddon yn cael cymorth i ddatblygu ei heconomi ymhellach mewn modd teg a gwyrdd, gan sicrhau nad yw’r un rhanbarth yn cael ei adael ar ôl. Mae gan Iwerddon ddyfodol craff, gwyrdd a digidol pellgyrhaeddol o’i blaen.”
Leave A Comment