Cartref2023-01-24T17:50:42+00:00

Portalis

Archwilio’r daith gyntaf rhwng Iwerddon a Chymru

Canfod y cysylltiad cyntaf rhwng Iwerddon a Chymru

Mae Portalis yn archwilio’r cysylltiad cyntaf rhwng Iwerddon a Chymru, cysylltiad sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Trwy ymchwil seiliedig ar dystiolaeth, mae ein prosiect trawsddisgyblaethol yn ymchwilio i’r modd yr addasodd y cyfanheddwyr cyntaf i’w hamgylchoedd er mwyn goroesi, ac mae’n ceisio deall a oes yna unrhyw gyffelybiaethau rhwng hyn a’r modd y gallwn ninnau addasu i’r newid yn yr hinsawdd ‘nawr.

Portalis

Prif Ffocws y Prosiect

Gwarchod

Gan weithio gyda’n cymunedau lleol, rydym yn gwarchod ein treftadaeth arfordirol naturiol a diwylliannol, a’i chynefinoedd naturiol a’i bywyd gwyllt, trwy hwyluso’r broses o drosglwyddo gwybodaeth dan arweiniad dinasyddion am gadwraeth treftadaeth mewn safleoedd treftadaeth arfordirol allweddol sy’n gyrchfannau i ymwelwyr.

Hyrwyddo

Rydym yn hyrwyddo dealltwriaeth o’r broses o addasu i’r newid yn yr hinsawdd trwy brofiadau trawsffiniol sy’n archwilio tebygrwydd posibl rhwng profiad ein cyfanheddwyr cynharaf a’r modd y gallwn ninnau addasu i’r newid yn yr hinsawdd ‘nawr.

Tyfu

Rydym yn cefnogi cynnydd cynaliadwy yn nifer yr ymwelwyr trwy gyfrwng rhwydwaith twristiaeth drwy brofiad newydd, sy’n cynnwys gweithio gyda’n chwe chymuned arfordirol, ynghyd â thrwy ddatblygu rhwydwaith diwylliannol newydd rhwng amgueddfeydd allweddol yng Nghymru ac Iwerddon.

Ein gwaith

Yr hyn a wnawn

Mae ein gwaith yn cydgrynhoi tystiolaeth archaeolegol, daearegol ac amgylcheddol bresennol ac yn darparu ac yn dehongli data newydd i ffurfio naratif trawsffiniol cyffrous.

Y modd yr ydym yn gweithio

Drilio am samplau craidd, cloddio, dadansoddi mewn labordai, gweithdai gwyddoniaeth y dinesydd, cynllunio profiad yr ymwelydd, sy’n cynnwys ffilm a realiti rhithwir, a datblygu rhwydwaith trawsffiniol.

Y modd yr ydym yn meithrin ymwybyddiaeth

Trwy ddigwyddiadau archaeoleg cyhoeddus, digwyddiadau profiad yr ymwelydd, gweithdai gwyddoniaeth y dinesydd, a rhagor, mae Portalis yn tynnu sylw at werth gwarchod ein treftadaeth naturiol a diwylliannol, a’r addasu cysylltiedig i’r hinsawdd.

Y modd yr ydym yn cefnogi twf cymunedol

Mae Portalis yn gweithio’n agos gyda’n cymunedau arfordirol i sefydlu rhwydwaith twristiaeth drwy brofiad trawsffiniol newydd a rhwydwaith diwylliannol trawsffiniol newydd.

Y modd yr ydym yn cefnogi ein cymuned ymchwil drawsffiniol

Wrth addasu i’r newidiadau sydd o’n blaenau, rydym yn archwilio opsiynau sy’n ymwneud â diogelu ein treftadaeth a’r gwersi a ddysgwyd gan ein cyfanheddwyr cynharaf.

Y modd yr ydym yn cefnogi ein hymwelwyr

Rydym yn gweithio gyda’n chwe chymuned i ddatblygu casgliad o opsiynau teithio cyfrifol wedi’u teilwra sy’n canolbwyntio ar ein profiadau newydd i ymwelwyr.

Register for our events

Join the Portalis team in discovering and protecting our shared cultural and natural heritage through our events and activities.

Y Newyddion Diweddaraf

Cydweithredu a gweithio ar y cyd yw’r allwedd

Partneriaid Portalis

Go to Top