Joy Rooney, Uwch Swyddog Cyfrifol Portalis ac Arweinydd Dylunio, SETU, yn lansiad Profiad Ymwelwyr Dros Dro Portalis yn Amgueddfeydd Trysorau Waterford
Ar ran ein tîm prosiect, hoffwn fynegi ein diolch diffuant i’n holl randdeiliaid, wrth i brosiect Peilot Portalis ddod i ben. Mae eich cefnogaeth ddiwyro, eich ymroddiad a’ch cydweithrediad drwy gydol cyfnod cyflawni’r prosiect wedi bod yn allweddol i wireddu’r cynllun peilot uchelgeisiol hwn. Gyda’n gilydd, rydym wedi goresgyn heriau, wedi dathlu llwyddiannau ac wedi datblygu ein gweledigaeth ar y cyd.
Mae’r prosiect peilot yn ddyledus i’r diweddar Noel McDonagh, a oedd yn archeolegydd dinesig, a’r arbenigwyr allweddol y bu McDonagh’n ymgysylltu â nhw, yn arbennig yr Athro Peter Woodman a’r Athro Stanton Green. Hefyd, mae’n ddyledus i’r gwaith gwirfoddol dilynol gan Grŵp Llywio Creaden/ Aber Waterford yn Iwerddon, yn enwedig Ann Cusack, a’r gefnogaeth wych a gafwyd gan ein chwe chymuned arfordirol leol yng Nghymru ac Iwerddon.
Cynlluniwyd a chyflwynwyd prosiect peilot trawsddisgyblaethol Portalis megis peilot oedd yn cael ei arwain gan ddinasyddion, gan sefydlu llwyfan cadarn tuag at gyflawni gwaith pellach ar draws ystod o ddisgyblaethau. Ein nod oedd diogelu, hyrwyddo a chreu ymwybyddiaeth o’n treftadaeth naturiol a diwylliannol ac yn ei dro, gynyddu nifer yr ymwelwyr i’n chwe chymuned arfordirol mewn modd cynaliadwy a chyfrifol. Fel cymuned gyfunol o randdeiliaid a thîm prosiect, rydym yn falch o’r cyflawniadau anhygoel yr ydym wedi’u cyflawni gyda’n gilydd.
Rydym hefyd yn ymwybodol bod mwy o waith i’w wneud, megis gwaith a all bellach adeiladu ar ganfyddiadau ac allbynnau’r prosiect peilot. Mae ein cymunedau arfordirol yn ymateb i’n heriau a’n cyfleoedd yn uniongyrchol. Edrychwn ymlaen hefyd at genedlaethau’r dyfodol, wrth iddynt wynebu heriau etifeddol er mwyn gwarchod ein treftadaeth arfordirol mewn cyfnod o newid cyflym yn yr hinsawdd.
Mae llwyddiant prosiect peilot Portalis yn parhau i fod yn dyst i wydnwch anhygoel ein hamgylchedd a’n hysbryd ar y cyd o dan amodau eithafol a gelyniaethus ar adegau. Roedd hyn yn wir hefyd am yr ymsefydlwyr cyntaf. Rydym yn gyffrous ynghylch y posibiliadau sydd o’n blaenau ac yn edrych ymlaen at gyflawni cerrig milltir a fydd hyd yn oed yn fwy.
Diolch am fod yn rhan annatod o’r daith unigryw hon.
Ar ran tîm y prosiect, cofion cynnes,
Joy Rooney, Uwch Swyddog Cyfrifol Portalis ac Arweinydd Dylunio, Prifysgol Dechnolegol y De-Ddwyrain (SETU).
Leave A Comment