About this event

What: Book a place and join us in the field on an archaeological dig and be taught the basics of archaeological excavation, including how to survey, record and investigate your landscapes.

Where: Meet at UWTSD, Arts Hall Carpark, Lampeter for transport to the site.

Register here in this link

Who: Open to anyone aged 16 and over. Please note: Due to H&S purposes you may be asked to provide ID & proof of age.

When: Monday to Friday from the 24th April to 5th May and Fridays only from 12th May to 26th May: 9am – 4.00pm.

What to bring: Remember that you are working in the field in West Wales so please ensure that you have kit suitable for warm and cold/wet conditions. This would include waterproofs, sturdy footwear, sun hat, sun cream and gloves. Please also bring your own packed lunch and any hot drinks as we are some distance from shops.

Additional Information: You will be taken from Lampeter to our site at Talsarn by coach as there is minimal parking available. There will be toilets on site and water will be provided. On arrival, you will be asked to sign a project attendance sheet and will need to complete a medical form to let us know of any medical issues that might impact your participation in the excavation. These will be kept confidential.

Cost: Free.

Register here in this link

TitleJOIN OUR ARCHAEOLOGISTS TO HELP DISCOVER CEREDIGION’S EARLY HISTORY

Once again, archaeologists from the University of Wales Trinity Saint David’s Lampeter campus will be excavating a site at Talsarn in the Aeron Valley. The site was discovered in 2019 during a student training excavation on a low mound on the valley floor. Flint flakes and a partially polished stone axe dating back perhaps some 5000 years were located in a series of shallow trenches excavated across the site. This spring we are intending to return to the site to hopefully discover more finds and evidence for what inhabitants were doing in the area. Work will also be undertaken to unravel the history of changing vegetation of this landscape throughout later prehistoric and historic times. Surrounding the mound are peat filled hollows that are likely to contain pollen grains that will enable us to reconstruct this vegetation and to examine the history of farming in the area.

The discovery of the Talsarn site is exciting. Such sites, in this part of the world, are rare and have seldom been excavated using modern archaeological techniques. While we are not sure of the purpose of the site, we know, from the very well preserved nature of the artefacts, that people were importing raw materials or tools from distant sources. Axes may have been used here for timber collection, along with tools for hunting or wildfowling. It also means that the site and its surrounding area were connected to places, people and practices from across Britain and Ireland. Perhaps this year we may find more extensive evidence for what they were doing?

If you want to be part of this story exploring Ceredigion’s early history then please join us in the field during April and May. We are looking for volunteers to participate Monday to Friday from 24th April to 5th May and on a Friday only from 12th to 26th May. You will be taught the basics of archaeological excavation, including how to survey, record and investigate your landscapes. You will also have the opportunity to participate in artefact recovery and processing, and may even identify another polished axe!

This work is part of a €1.95 million project called Portalis, a cross-border, transdisciplinary pilot project that explores the earliest connections between Ireland and Wales. The funding for the project comes from the European Regional Development Fund, through the Ireland Wales Cooperation programme. The project is led by Waterford Institute of Technology and is supported by the University of Wales Trinity Saint David, Ceredigion County Council and Waterford Chamber of Trade.

 

Beth: Archebwch le ac ymunwch â ni yn y maes ar gloddfa archeolegol, gan gynnwys sut i gynnal arolwg o’ch tirweddau a’u hymchwilio, a sut i gofnodi’r wybodaeth.

Ble: Byddwn yn cwrdd yn PCYDDS, ym Maes Parcio Neuadd y Celfyddydau, Llanbedr Pont Steffan, i gael ein cludo i’r safle.

Pwy:Yn agored i unrhyw un 16 oed a throsodd. Sylwer, os gwelwch yn dda: Oherwydd dibenion Iechyd a Diogelwch, efallai y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth adnabod (‘ID’).

PrydDydd Llun i ddydd Gwener o’r 24ain o Ebrill i’r 5ed o Fai ac ar ddydd Gwener yn unig o’r 12ed i’r 26ain o Fai: 9 – 4 o’r gloch.

Yr hyn y dylech ddod gyda chi: Cofiwch y byddwch yn gweithio mewn cae yng Ngorllewin Cymru, felly gofalwch fod gennych ddillad sy’n addas ar gyfer tywydd poeth ac oer/gwlyb. Byddai hyn yn cynnwys dillad gwrth-ddŵr, esgidiau cadarn, het haul, eli haul a menig. Cofiwch hefyd ddod â’ch pecyn bwyd eich hun ac unrhyw ddiodydd poeth, gan ein bod gryn bellter o’r siopau.

Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd bws yn mynd â chi o Lambed i’n safle yn Nhalsarn, gan mai ychydig iawn o leoedd parcio sydd ar gael yn y safle. Bydd yna doiledau ar y safle, a bydd dŵr yn cael ei ddarparu. Ar ôl cyrraedd, gofynnir i chi lofnodi taflen presenoldeb ar y prosiect a ffurflen feddygol i roi gwybod i ni am unrhyw faterion meddygol a allai effeithio ar eich cyfranogiad yn y cloddiad. Bydd y rhain yn cael eu cadw’n gyfrinachol.

Cost: Am ddim

TeitlYMUNWCH Â’N HARCHEOLEGWYR I HELPU I DDARGANFOD HANES CYNNAR CEREDIGION

Unwaith eto, bydd archeolegwyr o gampws Llambed – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cloddio safle yn Nhalsarn yn Nyffryn Aeron. Darganfuwyd y safle yn 2019 yn ystod cloddiad hyfforddi myfyrwyr ar dwmpath isel ar lawr y dyffryn. Canfuwyd fflawiau fflint a bwyell garreg wedi’i llathru’n rhannol, a oedd yn dyddio’n ôl 5,000 o flynyddoedd, o bosibl, a hynny mewn cyfres o ffosydd bas a gloddiwyd ledled y safle. Y gwanwyn hwn rydym yn bwriadu dychwelyd i’r safle i obeithio darganfod mwy o ddarganfyddiadau a thystiolaeth o’r hyn yr oedd y trigolion yn arfer ei wneud yn yr ardal. Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i ddatrys hanes llystyfiant newidiol y dirwedd hon trwy adegau Cynhanesyddol a Hanesyddol diweddarach. Yn amgylchynu’r twmpath y mae pantiau wedi’u llenwi â mawn, sy’n debygol o gynnwys gronynnau paill a fydd yn ein galluogi i ail-greu’r llystyfiant hwn ac archwilio hanes ffermio yn yr ardal.

Mae darganfyddiad safle Talsarn yn gyffrous. Mae safleoedd o’r fath yn brin yn y rhan hon o’r byd, ac yn anaml iawn y maent wedi cael eu cloddio gan ddefnyddio technegau archaeolegol modern. Er nad ydym yn sicr o ddiben y safle, gwyddom, o gyflwr arbennig o dda yr arteffactau, fod pobl yn mewnforio deunyddiau crai neu offer o ffynonellau pell. Efallai bod bwyeill wedi cael eu defnyddio yma i gasglu pren, yn ogystal ag offer ar gyfer hela neu adara. Mae hefyd yn golygu bod y safle a’i amgylchynau wedi’u cysylltu â mannau, pobl ac arferion o bob cwr o Brydain ac Iwerddon. Efallai eleni y byddwn yn darganfod tystiolaeth fwy eang o’r hyn yr oeddent yn ei wneud.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r stori hon yn archwilio hanes cynnar Ceredigion, yna ymunwch â ni yn y maes yn ystod Ebrill a Mai. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan o ddydd Llun i ddydd Gwener o’r 24ain o Ebrill i’r 5ed o Fai ac ar ddydd Gwener yn unig rhwng y 12ed a’r 26ain o Fai. Bydd elfennau sylfaenol cloddio archaeolegol yn cael eu haddysgu i chi, gan gynnwys sut i gynnal arolwg o’ch tirweddau, eu cofnodi a’u harchwilio. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y gwaith o adfer a phrosesu arteffactau, ac efallai y byddwch hyd yn oed yn nodi bwyell lathredig arall!

Mae’r gwaith hwn yn rhan o brosiect €1.95 miliwn o’r enw Portalis, sef prosiect peilot traws-ddisgyblaethol a thrawsffiniol sy’n archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng Iwerddon a Chymru. Daw’r cyllid ar gyfer y prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru. Arweinir y prosiect gan Sefydliad Technoleg Waterford, ac fe’i cefnogir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Ceredigion a Siambr Fasnach Waterford.

https://www.portalisproject.eu/