Sandra – Excavation Volunteer

I was very grateful to have the opportunity to take part in an archaeological excavation again with the Portalis project. This was the first excavation I had undertaken since completing my MSc in Palaeolithic archaeology and Anthropology several years ago and I had forgotten how much I missed it! Archaeological excavations involving the public are not that common anymore which is why projects like Portalis are more important than ever.

I began excavating in Trench 10 troweling the soil back carefully looking for any archaeology such as lithic material. There was evidence of burning in my section and across other close sections shown by charcoal and it was fascinating to be able to determine this and see past occupations. There was also evidence of quartz which although unworked in this case can be utilised for tools. While excavating my colleague in a close proximity found a beautifully worked microlith.

The next day I started digging test pits involving de-turfing of soil removing vegetation and then troweling back to reveal different layers or contexts of soil. This helps us to record past landscapes and one of the test pits was being prepared to take soil samples for analysis. My colleague working with me found pottery evidence and a colleague a few test pits away found a pottery fragment that could be recognised as from an onion jar named as such due to the vessel shape.

I am looking forward to hearing how the excavation progresses and what else may be found.

Dyddiadur Cloddio – Diwrnod 9

Roeddwn yn ddiolchgar iawn o gael y cyfle i gymryd rhan mewn cloddiad archeolegol unwaith eto gyda phrosiect Portalis. Hwn oedd y cloddiad cyntaf i mi gymryd rhan ynddo ers cwblhau fy ngradd MSc mewn Archeoleg ac Anthropoleg Palaeolithig sawl blwyddyn yn ôl, ac roeddwn wedi anghofio cymaint yr oeddwn yn ei golli! Nid yw cloddiadau archeolegol sy’n cynnwys y cyhoedd mor gyffredin bellach, a dyna pam mae prosiectau fel un Portalis yn bwysicach nag erioed.

Dechreuais gloddio yn Ffos 10, gan drywelu’r pridd yn ôl yn ofalus a chwilio am unrhyw archeoleg, megis defnydd lithig. Roedd tystiolaeth o losgi yn y rhan lle’r oeddwn i ac ar draws rhannau eraill, cyfagos. Roedd y siarcol yn arwydd o hyn ac roedd yn hynod ddiddorol gallu pennu fod hyn wedi digwydd a gweld olion galwedigaethau’r gorffennol. Roedd tystiolaeth hefyd o gwarts, sydd yn bosibl ei ddefnyddio ar gyfer gwneud offer, ond doedd neb wedi gweithio arno yn yr achos hwn. Wrth gloddio, daeth fy nghydweithiwr mewn man agos o hyd i ficrolith wedi’i weithio’n hyfryd.

Y diwrnod canlynol, dechreuais gloddio tyllau prawf, gan dynnu’r tywyrch oddi ar ben y pridd, clirio’r llystyfiant ac yna defnyddio trywel i ddatgelu gwahanol haenau neu gyd-destunau pridd. Mae hyn yn ein helpu i gofnodi tirweddau’r gorffennol ac roedd paratoadau yn un o’r pyllau prawf i gymryd samplau pridd allan ohono er mwyn eu dadansoddi. Daeth fy nghydweithiwr, a oedd yn gweithio gyda mi, o hyd i dystiolaeth o grochenwaith a daeth cydweithiwr oedd yn gweithio ychydig o byllau prawf yn bellach i ffwrdd oddi wrthyf, o hyd i ddarn o grochenwaith y gellid ei adnabod fel jar winwns. Fe’i gelwir yn jar winwns oherwydd siâp y llestr.

Rwy’n edrych ymlaen at glywed sut mae’r cloddiad yn mynd rhagddo a beth arall y gellir ei ddarganfod.