Excavation Dig Diary – Day 4
My name is Stroma and I am a volunteer on the Portalis project at Llanllyr. I started the dig on Monday 24th April for 5 days. On day 1 the weather was atrocious in the morning, but it cleared in the afternoon so managed to make the decision where the test pits were going to be, did the measurements and then deturfed. I spent the first couple of days trowelling and reached the second context. I found a couple of sherds of pottery and my fellow volunteers found the remains of a wine flagon which was very exciting.
On day 4 I moved to Trench 10 which was opened last year. After removing the back fill which was put down last year, I then removed the tarpaulin that was put down to protect the trench.
During the clearing of the soil, it was then I uncovered 3 shards of struck flint in succession. This was really exciting for me as I have never found struck flint before. I will be back in trench 10 until Friday and it will be really great if I find even more flint.
I am signed up to return next week which I am really looking forward to. Bye for now!
Postiad blog. Dyddiadur Cloddio – Diwrnod 4.
Fy enw i yw Stroma ac rwy’n wirfoddolwr ar brosiect Portalis yn Llanllyr. Dechreuais gloddio ar ddydd Llun 24 Ebrill am 5 diwrnod. Ar ddiwrnod 1 roedd y tywydd yn erchyll yn y bore, ond fe gliriodd yn y prynhawn, felly llwyddais i wneud penderfyniad ynghylch ble roedd y pyllau prawf yn mynd i fod, gan wneud y mesuriadau ac yna chodi’r tywyrch. Defnyddiais drywel yn ystod y cwpl o ddiwrnodau cyntaf a chyrraedd y cyd-destun eilaidd. Deuthum o hyd i gwpl o ddarnau o grochenwaith a daeth fy nghyd-wirfoddolwyr o hyd i weddillion costrel win, a oedd yn gyffrous iawn.
Ar ddiwrnod 4 symudais i Ffos 10 a agorwyd y llynedd. Ar ôl tynnu’r ôl-lenwad a roddwyd yn ei le y llynedd, codais y tarpolin a roddwyd i lawr i amddiffyn y ffos.
Yn ystod y gwaith o glirio’r pridd, darganfyddais 3 darn o fflint wedi’i daro, un ar ôl y llall. Roedd hyn yn gyffrous iawn i mi gan nad oeddwn erioed wedi dod o hyd i fflint wedi’i daro o’r blaen. Byddaf yn ôl yn ffos 10 tan ddydd Gwener a bydd yn wych iawn os byddaf yn dod o hyd i hyd yn oed mwy o fflint.
Rwyf wedi cofrestru i ddychwelyd yr wythnos nesaf ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr. Hwyl am nawr!
Leave A Comment