Coedwig suddedig yn y Borth, Ceredigion. Coed pinwydd yw’r coed yn bennaf gydag ambell dderwen. Mae’r goedwig yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig hwyr i’r cyfnod Neolithig diweddarach.

A minnau’n blentyn bach yn adeiladu cestyll tywod ac yn padlo yn y môr yn y Borth yng Ngorllewin Cymru, roedd boncyffion coed o goedwig hynafol (1), wedi’u hanner orchuddio gan ddŵr, yno’n barhaus yn bwrw eu cysgodion dros ein rhwydwaith cywrain o ffosydd a sianeli a adeiladwyd i ddiogelu ein crefftwaith. Roedd y coed hyn (a’r mawn o amgylch y coed) yn adnabyddus yn ein teulu ni gan fod fy nhad yn ddaearegwr yn y brifysgol yn Aberystwyth. Roeddem bob amser yn cadw llygad amdanynt pan fyddem yn ymweld â’r traeth ar ôl ysgol yn ystod dyddiau cynnes, ymddangosiadol ddiddiwedd, ein blynyddoedd yn yr ysgol gynradd.  Ymlaen i 2012 a daeth fy nhad (sydd bellach wedi hen ymddeol) o hyd i ambell garreg losg yn y mawn, gan roi cychwyn ar gyfres o ymweliadau rheolaidd, i’r ddau ohonom, i gofnodi a chasglu samplau yn y goedwig.  Mae hyn yn parhau hyd heddiw, er bod dad bellach yn ei 80au canol, a hyd yn hyn mae wedi cynnwys tair cenhedlaeth o deulu’r Bates.  Mae’r goedwig wedi datgelu nifer o ddarganfyddiadau diddorol dros y blynyddoedd, a ddadorchuddiwyd o bryd i’w gilydd gan stormydd y gaeaf, gan gynnwys set ysblennydd o gyrn carw coch (2), olion traed dynol (3) ac yn fwyaf diweddar, aelwyd Neolithig (4) lle defnyddid pren i gynhesu cerrig.

(1) Cyrn carw coch o’r Oes Efydd a ddarganfuwyd mewn sianel a oedd yn torri trwy’r goedwig suddedig yn y Borth. (2) Olion traed plentyn bach yn y mawn yn y Borth. O’r Oes Efydd mae’n debyg. (3) Casgliad rhydd o gerrig llosg a golosg yn dyddio o’r oes Neolithig yn y mawn yn Ynyslas, Ceredigion.

Ond trowch i ffwrdd o’r goedwig ac edrych allan i’r môr. Mae Bae Ceredigion (5) wedi’i amgáu gan fynyddoedd uchel Gogledd Cymru a thir mynyddoedd y Preseli i’r de, ond yn uniongyrchol i’r gorllewin y cyfan y gallwn ei weld yw dyfroedd cyfnewidiol y bae. Fodd bynnag, os dringwch chi’n ddigon uchel ar ddiwrnod clir mae’n bosibl gweld rhannau o arfordir Iwerddon.  Heddiw, meddyliwn am y môr (Bae Ceredigion/Môr Iwerddon) fel gwahanfur rhwng y gwledydd – mae Môr Iwerddon yn gwahanu Cymru a Lloegr oddi wrth Iwerddon.  Daeth y ffaith hon yn gwbl glir yn sgil y problemau diddiwedd a grëwyd gan broses Brexit, nas ystyriwyd yn digon trwyadl. Fodd bynnag, yn hytrach na bod yn wahanfur, mae’r môr yn draddodiadol wedi bod fel glud yn uno mannau â’i gilydd. Yn wir, tan ddyfodiad y rheilffyrdd, y dull arferol o deithio’n gyflym o amgylch y wlad oedd mewn cwch ar y dŵr yn hytrach nag ar draws y tir. Mor bell yn ôl â’r oes Neolithig, gallwn weld tystiolaeth o’r cysylltiadau hyn trwy bethau megis y cofebau claddu sy’n gyffredin trwy Gymru, Iwerddon a’r Alban, dosbarthiad bwyeill cerrig gloyw ac, o gyfnodau diweddarach, arysgrifau ogham/rwnig a’r straeon niferus sy’n cysylltu ein dwy wlad.  Os ceisiwn fynd yn ôl ymhellach, dechreuwn gael trafferth dod o hyd i dystiolaeth o’r cysylltiadau hyn. Sy’n dod a ni at Portalis,  y prosiect sy’n ceisio deall sut roedd bodau dynol, yn y cyfnod cyn ffermio, yn defnyddio’r gofod rhwng y gwledydd modern hyn a pha gyswllt, os o gwbl, oedd yn bosibl rhwng y bobl.

Er mwyn ein galluogi i feddwl am bobl yn yr oesoedd hyn, mae’n rhaid i ni gydnabod yn gyntaf fod tirweddau’r oes o’r blaen, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, yn wahanol iawn i rai heddiw.  Golygai lefelau is y môr fod Bae Ceredigion yn dir sych. Tra gynt yr oedd yno afonydd, corsydd a choedwigoedd yn llawn ceirw coch, moch ac efallai bleiddiaid, heddiw ceir creigiau, banciau tywod ac ogofâu dan ddŵr yn cynnal dolffiniaid trwynbwl, llysywod bendoll y môr a morloi’r Iwerydd.  Roedd pobl yn byw ar y tirweddau sych hyn yn ôl pob tebyg, ond mae eu holion wedi hen ddiflannu o dan y môr, a heddiw dim ond safleoedd megis yr un yn Nhanybwlch (6) yn Aberystwyth (safle Mesolithig a gloddiwyd yn nechrau’r 20fed ganrif) sy’n sefyll fel tystiolaeth o bresenoldeb pobl yn yr ardal yn y cyfnod hwn.  Erbyn i’r ffermwyr cyntaf gyrraedd Gorllewin Cymru tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd lefelau’r môr wedi codi a’r arfordir sy’n gyfarwydd i ni heddiw wedi ei sefydlu.

(1) Harbwr Aberystwyth ac aber afon Ystwyth. Yn y canol yn y tu blaen, i’r chwith o’r bont mae lleoliad y safle Mesolithig yn Nhanybwlch. (2) Stormydd gwanwyn 2018 ar lan y môr yn Aberystwyth. (3) Machlud haul ar draws y goedwig suddedig yn y Borth.

Dynoda henebion a diwylliant materol cyffredin yr oes Neolithig ei bod yn ymddangos bod gan y bobl hyn gysylltiadau da ar draws y môr, a gallwn dybio, er nad oedd teithio yn ôl ac ymlaen yn gyffredin efallai, nad oedd yn beth dieithr.  Byddai’r cyswllt hwn wedi bod i’r ddau gyfeiriad gyda syniadau a gwybodaeth yn llifo ddwy ffordd. Ond ni lwyddwyd i gael gafael ar dystiolaeth o gyswllt cynharach, yn y cyfnod Mesolithig. Mae angen i ni gofio mai’r dystiolaeth fwyaf sydd gennym ar gyfer y cyfnodau cynharach hyn yng Ngheredigion a De-ddwyrain Iwerddon yw’r offer cerrig a adawsant ar eu hôl. Mae’n ymddangos bod y rhain wedi’u gwneud o garreg a oedd ar gael yn lleol ac nid oes gennym dystiolaeth fod deunyddiau crai wedi’u symud ar draws y môr yn y cyfnod hwn. Yr hyn oedd yn cysylltu’r bobloedd yn y mannau hyn a’r cyfnodau hyn, fodd bynnag, oedd yr amgylcheddau a oedd yn newid yn barhaus. Roedd y cynnydd mewn lefelau dŵr a newidiadau o ran llystyfiant ac anifeiliaid, oll yn heriau yr oedd angen i’r bobloedd hyn eu hwynebu a’u goresgyn.

Gan ddychwelyd i Fae Ceredigion, gallwn ddyfalu sut yr effeithiodd y newidiadau hyn ar y bobl. Sut gwnaeth ein hynafiaid Mesolithig ymdopi â lefelau dŵr yn codi, colli tiroedd i’r môr, ac erydiad arfordirol? Mae rhai daearyddwyr a daearegwyr yn gweld yr hanesion ledled byd ynghylch llifogydd (meddyliwch am Noa, Atlantis, Gilgamesh) fel atgofion a drosglwyddwyd o’r oes hon. Ym Mae Ceredigion, mae gennym ein stori ein hunain am lifogydd, hanes Cantre’r Gwaelod, felly ai dyma’r stori, a newidiodd dros amser, am ein hynafiaid Mesolithig yn delio â llifogydd ôl-rewlifol? Annhebygol iawn, byddwn i’n ei awgrymu. Yr hyn nad yw’r safbwyntiau gor-syml hyn o naratifau cymhleth yn mynd i’r afael ag ef yw natur adrodd stori a’r cof. O ganlyniad, mae’r straeon hyn yn fwy tebygol o gofnodi llifogydd (7) a thrychineb leol yn hytrach nag un cyfnod o lifogydd. Felly pan edrychwn ar ein cofnodion yng Nghymru ac Iwerddon, yr hyn a welwn mewn gwirionedd yw cofnod o addasu llwyddiannus i newid. Dyma lle mae dulliau cyffredin y timau o archaeolegwyr ar ddwy ochr y dŵr wedi gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu naratif am bobl a gysylltwyd gan ofod cyffredin cyn,  yn ystod ac ar ôl i’r cynnydd yn lefel y môr newid daearyddiaeth y ddwy wlad (8).

Cyrn carw coch o’r Oes Efydd a ddarganfuwyd mewn sianel a oedd yn torri trwy’r goedwig suddedig yn y Borth.