Cynhaliwyd Ail uwchgynhadledd datblygu rhwydwaith trawsffiniol Portalis yn Siambr Fasnach Waterford, Iwerddon

Roedd yr uwchgynhadledd yn cynnwys ymweliad ag Aber Waterford ar gwch, wedi’i hwyluso gan Hook or by Crooke Boat Tours, ac yna taith dywysiedig yn Passage East gan yr hanesydd lleol, Andrew Doherty.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cynhaliodd Portalis ei ail uwchgynhadledd datblygu rhwydwaith trawsffiniol yn Waterford, Iwerddon. Daeth cynrychiolwyr rhanddeiliaid lleol o gymunedau arfordirol allweddol ynghyd ar gyfer yr hyn a oedd yn garreg filltir i’r prosiect peilot pwysig hwn. Roedd y cynrychiolwyr yn cynnwys grŵp rhanddeiliaid lleol o Iwerddon a grŵp rhanddeiliaid lleol o Gymru, y ddau wedi’u creu drwy brosiect peilot Portalis.

Mae Portalis yn archwilio’r cysylltiadau rhwng Bae Ceredigion, Cymru a De-ddwyrain Iwerddon yn ystod y cyfnod Mesolithig, neu’r hyn a arferai gael ei adnabod fel Canol Oes y Cerrig. Gwneir hyn drwy ddefnyddio tystiolaeth bresennol a darparu data newydd i greu naratif trawsffiniol newydd, cyffrous.

Mae’r prosiect hefyd yn ceisio cefnogi cynnydd cynaliadwy yn nifer yr ymwelwyr trwy greu rhwydwaith twristiaeth trawsffiniol newydd sy’n ymgysylltu ac yn cydweithio ar brosiectau cyffredin gyda’i gilydd. Hyrwyddir twf economaidd glas a gwyrdd newydd fel sail i’r prosiect.

Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd gan SETU, sef y partner arweiniol, a Siambr Fasnach Waterford. Roedd rhanddeiliaid lleol o Gymru wedi teithio draw i’r Iwerddon ar fferi er mwyn mynychu’r uwchgynhadledd, lle bu’r grŵp yn ymhelaethu ymhellach ar syniadau a chyfleoedd i ddatblygu rhwydwaith datblygu twristiaeth trawsffiniol a phrosiectau penodol y gellid eu datblygu.

Pan yn trafod datblygiad syniadau a ddaeth o’r cyfarfod, dywedodd Donal Nolan, Arweinydd Datblygu Rhwydwaith Portalis, “un o’r pethau mwyaf cadarnhaol a ddeilliodd o’r uwchgynhadledd oedd parodrwydd partneriaid y prosiect i ddod o hyd i syniadau newydd ar gyfer cydweithio, a fydd yn creu cysylltiadau pellach rhwng y rhanbarthau”.

Cynrychiolwyr o’r grŵp twristiaeth trawsffiniol yn mynd ar daith cwch i lawr Aber Waterford gyda By Hook or By Crooke Boat Tours. Mae’r busnes yn un o’r rhanddeiliad lleol ar brosiect Portalis.

Yn dilyn y cyfarfod, aeth y grŵp ar daith cwch o amgylch Aber Waterford gyda By Hook or By Crooke Boat Tours. Cafwyd mewnwelediad gwych i hanes yr aber, bywyd gwyllt yr ardal a’r datblygiadau sy’n digwydd ar yr aber. Yn dilyn y daith, cyfarchwyd y grŵp yn Passage East gan yr hanesydd lleol, Andrew Doherty, a wnaeth eu tywys o amgylch yr ardal gan adrodd hanesion megis y gaer yn Passage East, Spider Light, Geneva Barracks a The Croppy Boy, cored Woodstown, Giant’s Grave ac adeiladu’r East Pier yn Dunmore, ymysg hanesion eraill.

Dywedodd Joy Rooney, Uwch Swyddog Cyfrifol Portalis, Arweinydd Dylunio a Darlithydd ac Ymchwilydd mewn Dylunio ym Mhrifysgol Dechnolegol y De Ddwyrain (SETU), “Rydym yn archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng gwareiddiadau arfordirol Cymru ac Iwerddon. Adlewyrchir hyn gan ein partneriaeth drawsffiniol aml-asiantaeth sy’n cael ei harwain gan ddinasyddion. Mae’r bartneriaeth hon yn cael ei ffurfio yn grŵp datblygu rhwydwaith trawsffiniol penodol, gan ein cymunedau arfordirol cyfoes. O ran gweld cyfleoedd, rydym yn tynnu ar gydnerthedd cymunedol arfordirol a rennir – gan arwain at dwf economaidd cynaliadwy glas a gwyrdd a chwrdd â’r heriau newid yn yr hinsawdd sydd o’n blaenau yn ein cymunedau arfordirol”.

Yr hanesydd lleol, Andrew Doherty yn arwain y grŵp ar daith o’r gaer yn Passage East, Spider Light, Geneva Barracks, The Croppy Boy, cored Woodstown, Giant’s Grave ac adeiladu’r East Pier yn Dunmore East.

Bydd y grŵp trawsffiniol yn ceisio cadarnhau prosiectau datblygu posibl i’w dilyn fel grŵp a hefyd atgyfnerthu seiliau’r grŵp ymhellach, fel y bydd yn gweithredu fel endid ymhell ar ôl i brosiect Portalis ddod i ben.

Mae prosiect Portalis, €1.95m, yn cael ei gefnogi gan €1.5m o gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru, www.irelandwales.eu. Arweinir y prosiect gan Brifysgol Dechnolegol De-ddwyrain, (SETU) ac fe’i cefnogir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Ceredigion a Siambr Fasnach Waterford.