Mae ‘The Story of Human Settlement in Waterford’ yn brofiad i ymwelwyr sy’n archwilio tystiolaeth o fywyd sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig. Mae hwn yn brofiad hygyrch ac am ddim.

 Mae profiad parhaol newydd a chyffrous i ymwelwyr wedi agor yn Amgueddfeydd Waterford Treasures. Mae’r profiad ymwelwyr trawsffiniol hwn yn archwilio bywyd ein hymsefydlwyr cynharaf. Mae ymchwilwyr o brosiect peilot trawsddisgyblaethol Portalis, sy’n gweithio gyda chwe chymuned arfordirol, wedi bod yn archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng Iwerddon a Chymru, sy’n dyddio’n ôl i 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’n cynnwys arddangosfa gynhwysol o arteffactau Mesolithig a gloddiwyd.

Archwiliodd prosiect ymchwil peilot trawsddisgyblaethol Portalis (sy’n golygu ‘Porth’), dreftadaeth naturiol a diwylliannol a’r heriau cyfoes cysylltiedig mewn cymunedau arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon, gan fynd yn ôl i’r Oes Fesolithig. Cynhwysir canfyddiadau’r prosiect ac offer carreg o ardal Aber Waterford yn yr arddangosfa hon.

Mae Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, yn cynnal chwaer arddangosfa, ac mae amgueddfeydd a chyrchfannau arfordirol bellach wedi’u cysylltu gan rwydwaith diwylliannol trawsffiniol newydd y prosiect a’r ap peilot o’r enw Portalis Augmented Reality (AR).

Mae rhai o’r offer carreg a gasglwyd gan y diweddar Noel McDonagh, a oedd yn archeolegydd dinesig, yn cael eu harddangos yma am y tro cyntaf. Cysegrodd McDonagh tua hanner can mlynedd o’i fywyd i ymchwilio i ardal Creadan, gan gasglu tua 6,000 o arteffactau ar wyneb y tir. Yn 2016, fe ddynodwyd Creadan fel y safle Mesolithig Cynnar pendant cyntaf yn Waterford, yn dilyn cloddiad archeolegol prawf trwyddedig ar Creadan Head gan yr Athro Peter Woodman, oedd yn gweithio gyda Noel a gwirfoddolwyr lleol.

Mae mynediad i brofiad parhaol i ymwelwyr gan Portalis yn Amgueddfeydd Trysorau Waterford yn rhad ac am ddim, ac nid oes angen archebu ymlaen llaw. Mae bodolaeth prosiect peilot trawsddisgyblaethol Portalis yn llawn dyled i’r diweddar Noel McDonagh, a oedd yn archeolegydd dinesig, a’r arbenigwyr allweddol y bu McDonagh yn ymgysylltu â nhw, yn arbennig yr Athro Peter Woodman, yr Athro Stanton Green a Dr. Joseph Schuldenrein. Ochr yn ochr â hyn, mae gwreiddiau’r prosiect hefyd yn deillio o waith gwirfoddol dilynol gan Grŵp Llywio Creaden/Aber Waterford a’r gefnogaeth aruthrol a gafwyd gan gymunedau arfordirol lleol yn Iwerddon a Chymru.

Yn Iwerddon, bu archeolegwyr, geoarcheolegwyr, hinsoddegwyr, botanegwyr, a daearegwyr o Geoarchaeology Research Associates ynghyd â dylunwyr SETU a fu’n dehongli’r data newydd hwn drwy gyfrwng arddangosfa hygyrch, yn ceisio ail-greu amgylcheddau hynafol a’u cysylltu â thirweddau dynol Mesolithig a thirweddau wnaeth ddilyn y cyfnod Mesolithig. Penderfynwyd ar leoliadau craidd ar sail delweddau lloeren a delweddau a gafwyd yn dilyn hedfan dronau uwchben y lleoliadau. Roedd oedran y gwaddodion yn cael ei bennu gan y broses ddyddio radiocarbon. Mae’r paill o wahanol goed a gweiriau a orchuddiodd y tir.

Tîm Portalis gyda’r rhanddeiliaid yn lansiad y profiad parhaol i ymwelwyr yn Amgueddfeydd Waterford Treasures

Mae model Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn integreiddio’r data archeolegol, data creiddio a data sy’n dangos uchter. Mae pwyntiau uchder yn gallu dangos lle’r oedd lefel y môr yn y gorffennol. Roedd lefelau môr yn y cyfnod Mesolithig cynnar tua 6m yn is na lefel y môr heddiw. Mae’r wybodaeth hon yn deillio o ymchwil newydd a wnaed gan brosiect peilot Portalis sy’n dangos bod pobl Fesolithig wedi ymgartrefu ar dir uwch fel Creaden Head oherwydd bod lefel y môr yn codi, ac mae tystiolaeth wedi’i darganfod eu bod wedi meddiannu’r tir uchel sydd wedi goroesi a’u bod hefyd ar dir is sydd o dan ddŵr ar hyn o bryd yn dilyn codiad yn lefel y môr. Mae ymchwil hefyd yn dangos fod posibilrwydd fod pobl Fesolithig wedi meddiannu tir oedd ddegau o gilometrau i’r dwyrain o’r draethlin bresennol yn Creaden Head.

Cafodd y profiad i ymwelwyr ei lansio ar y cyd yn swyddogol ar ddydd Iau 27 Gorffennaf gan Katherine Collins, Rheolwr Prosiect Ardal Ddiwylliannol Waterford i Gyngor Dinas a Sir Waterford, gyda rhanddeiliaid allweddol yn bresennol. Dywedodd Katherine Collins, “mae’r profiad parhaol gwych hwn i ymwelwyr yn allweddol i ymgysylltu â’r cyhoedd drwy arddangos treftadaeth ein harfordiroedd, yma yn Waterford ac yn rhanbarth Ceredigion yng Nghymru. Mae arwyddocâd diwylliannol a chreadigol sylweddol o sicrhau fod yr arddangosfa ar gael i ymwelwyr a phobl leol. Un o ddeilliannau pwysig prosiect Portalis yw sut y mae wedi ein hysbysu a’n gwneud yn fwy ymwybodol o stori anheddiad dynol yn Waterford ac yn wir yn Iwerddon gyfan.”

Mae lansiad profiadau parhaol i ymwelwyr Portalis yn Amgueddfeydd Waterford Treasures ac Amgueddfa Ceredigion yn amlygu ystod eang o fentrau twristiaeth gynaliadwy cysylltiedig sy’n digwydd yng Nghymru ac Iwerddon. Dywedodd Rosemary Ryan, Curadur/Rheolwr Dros Dro yn Amgueddfeydd Trysorau Waterford “Rydym bellach yn gwybod mai Waterford oedd un o’r lleoedd cyntaf yn Iwerddon i fodau dynol ymgartrefu ynddo, tua 7,700 CC ac rydym yn arddangos rhai o’r offer carreg yn yr arddangosfa fach a chain hon. Bydd astudiaeth bellach o’r casgliadau o arteffactau o’r ardal hon yn datgelu llawer mwy wrthym.”

         Arteffactau allweddol yn cael eu harddangos yn y profiad parhaol i ymwelwyr yn Amgueddfeydd Trysorau Waterford

“Mae’r adnodd newydd parhaol hwn ar gyfer ein chwe chymuned arfordirol a’u hymwelwyr yn helpu i adrodd stori ein data newydd hynod unigryw, ac mi fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth ac ennyn diddordeb yn ein treftadaeth arfordirol ddiwylliannol a naturiol yn y cyfnod heriol sydd o’n blaenau. Mae Prifysgol Dechnolegol y De Ddwyrain (SETU) yn datblygu llwybrau ariannu pellach er mwyn helpu i sicrhau bod cynnyrch prosiectau peilot yn gynaliadwy ac yn seiliedig ar ymchwil pellach” meddai Joy Rooney, Uwch Swyddog ac Arweinydd Dylunio Portalis, Darlithydd ac Ymchwilydd mewn Dylunio, Prifysgol Dechnolegol y De-ddwyrain (SETU).